eddar, a'u cyflwyno fel her i'r gywybod Gristnogol. "Yr ydym mewn ymddatod mawr" dyna ddiweddgio'r adran. Yn yr adran olaf ceir trinaeth fwy cyffredinol ar gyflwr yr Eglwys-ei goddefgarwch arwynebol a difater, ei hymraniadau anghyfrifol, ei bodlonrwydd ar aros dan fawd y wladwriaeth, a gwendid ei phrotest yn erbyn rhyfel. Mae'n amlwg nad oes ond un ffordd ymwared, sef tywalltiad o'r Ysbryd Glân. Ac er mwyn paratoi'r ffordd, rhaid, yn ôl Mr. Griffith, wrth "ympryd a gweddi" a "chynhadledd o'r holl enwadau yng Nghymru" i "chwilio allan ewyllys Duw yng Nghrist i'r ugeinfed ganrif." Mae'n am- lwg mai ail-ddarganfod ac ail-dderbyn yr Efengyl yw angen cyntaf yr Eglwys, ym mam yr awdur. Cefnogaf ei ddatganiad yn frwd; ffolineb yw ceisio ennill mwy o wrandawyr i bregethau di-efengyl neu ddi-argyhoeddiad. Am hynny, credaf fod pwyslais y llyfr hwn yn iach ac yn amserol. Ar wahân i unochredd y feimiadaeth, un bai mawr yn unig sydd yma — y duedd i si- arad am "genedlaetholdeb," yn null llac a thrychinebus y llyfrau Saesneg, fel petai'n gyfystyr ag "ymddarostyngiad llwyr i wladwriaeth ryfelgar." Fel y gŵyr pawb, y mae cenedlaetholdeb yng Nghymru'n ymdrechu'n iach yn erbyn crafangau'r wladwriaeth ryfelgar. Mae methiant Mr. Griffith i wahaniaethu rhwng cenedlaetHoldeb heddychol ac addoliant y wladwriaeth yn cyfrif am ei fethiant i roi unrhyw Ie i'r mudiad mwyaf nod- edig sydd wedi dod i'r amlwg yng Nghymru yn y cyfnod modem-ein mudiad cenedl- aethol Cristnogol. Hofiwn ofyn i'r awdur galluog a nerthol: Ai cyson yw honni ar td. 75 nad i achub cenedl y daeth Iesu Grist i'r byd a diweddu'r llyfr trwy ddweud mai trwy ddangos diddordeb angerddol mewn'dyn y daw'r Eglwys "yn iachawwriaeth i'r cen- hedloedd." DAVIES ABERPENNAR. CYFIEITHIADAU YR AELWYD A STORIAU ERAILL, gan Maupassant. Cyfieithiwyd gan Gwenda Gruffydd. Llyfrau'r Dryw, Llandebie, Awst 1946. Td. 55. Pris 1/3. O safbwynt anghenion llenyddol Cymru gellid awgrymu mai gwell na chyfieithu rhagor o Maupassant, ar hyn o bryd, fyddai cael casgliad o storïau gan Idris Thomas neu Davies Aberpennar neu Olwen Walters; neu, os cyfieithu, beth am Sigrid Undset neu Kafka neu Stefan Zweig, neu ychwaneg o'r Rwseg? Ond wedi darllen trosiadau Mrs. Gruffydd, gwelaf nad digonol hollol yw gwneud awgrym o'r fath. Profiad gwerth- fawr yw cael ymgydnabyddu o'r newydd â gwaith y meistr hwn; ac yn sicr mae sail i obaith y cyfieithydd ei bod "wedi llwyddo i gyfleu rhywbeth o'r athrylith sydd gan Maupassant i greu sefyllfa ddramatig." Mae'r cyfieithiadau yn rymus a choeth. Gellid gwella er hynny y ffurfiau hyn: "chwareuai," "tebig," gloew," "nad allwn," "yr wythnos ddiweddaf," "yn y teim- lad o gysur y creadur wedi yfed alcool ar oì cinio," "gwaew," "agweddion," "ni sydd a'i piau," "euraidd," "rheiny," "dranoeth," "euthpwyd," "ymenydd," "gofynnodd os mai eu diwrnod derbyn ymwelwyr oedd hi," "gyrrwyr," "yn agor cregin gyda'i gyll- ell" (mae'r un bai mewn dau Ie arall). J. GWYN GRIFFITHS. TRWY DIROEDD Y DWYRAIN, gan H. Idris Bell. Cyfieithwyd gan D. Tecwyn Lloyd. Rhan I. Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1946. Td. 119. Pris 2/6 i aelodau. Gyda 1 Map a 4 darlun. Cefais gyfle mewn man arall i ganmol y gyfrol hon, ac oherwydd fy niddordeb arben- nig ynddi efallai y caniateir imi ymhelaethu yma. Braint, fel y dywedais o'r blaen, ydyw cael y llyfr nodedig hwn yn Gymraeg. Llyfr ydyw gan arbenigwr enwog, a phe cyhoeddid ef yn Saesneg byddai mynd mawr arno. Ond oherwydd ei ddiddordeb hysbys