diflannodd yr ofn, a dysgais yn raddol fod ymweld ag efail y gof yn golygu siwrnai trannoeth; canys ni faliai 'meistr gymaint am y pedolau pan weithiem ar y tir. Blwyddyn wedi fy nghwplo yn yr oged, y tynnais yr aradr gyntaf, a theim- lai fy ngewynnau y blinder eithaf erbyn nos wedi cyrchu'r hytir hirfaith gydol dydd. Ebol broc, crytach na mi, oedd fy nghydwedd. Cerddai yn araf a gosgeidd- ig ar y cefn, a minnau yn ymegnïo yn y rhych. Aredig oedd gorchwyl caletaf fy mywya unaonog, ac er treulio blynydd- oedd yn tynnu'r cwysi ar feysydd yr Haf- od, ni fedrais ymsionci erioed dan iau y caledwaith hwnnw. Porthid fi yn dda, mae'n wir, yn nhymor y caledwaith, a gallasai unrhyw aradrwr ymhyfrydu yn fy ngwedd borth- iannus ar fy anterth awr tua saith ac wyth oed. Gwinau ceiniogog oedd fy lliw, a safwn, wedi fy mhedoli, .fodfedd yn brin o bymtheg llaw. Yr oedd bwa fy ngwar yn feindlws a chrymanog, fy "llygaid mal dwy ellygen" yn llamu yn fy mhen llun- iaidd. Fy nghloriau cytbwys, wedyn, a'm garrau cryf, llydain, yr asgwrn fflat a'r siwrlen ysgafn esmwyth. Nid o falch- ter yr adroddaf hyn oll, canys yr oeddwn yn ddelw ddelfrydol, yn ôl y dyb gyffred- inol, o'r cob Cymreig. Tawel a digyffro fu fy mywyd drwyddo. Eto i gyd, os dywedwch nad oes gennyf ddim teilwng i roi ar gof a chadw, fe'ch atebaf chwi yng ngeiriau yr hen asyn hwnnw, "Ynfydion, cefais innau f'awr!" Syniai fy meistr mor uchel amdanaf, nes iddo fynd â mí i sîoeau'r wlad yn y dydd- iau hapus hynny. Wythnosau cyn y dydd mawr, sgraffellid a glanheid fi gyda diwydrwydd anarferol, a mynych gildwm o geirch a daenwyd dros fy mhryd arferol o siaff sgubau, cyn felyned â'r sofren. Ni fedrwn ddygymod â'r cadwyni gwaith, pan oedd y ceirch yn fy mhigo, a holl lif- eiriant gwaed pur fy hynafiaid yn reiat goch yn fy ngwythiennau. A chawn seg- urdod. Dôi y dydd mawr, a minnau yn ysgafndroed fel yr ewig a'm dwyglust yn dawnsio'n ôl a blaen i fesur miwsig y band. Gwibiai ceffylau eraill, porthiannus a theg yr olwg, o'm deutu, a gwyddai 'meistr ei bod hi'n awr gyfyng yn ein traddodiad ni ein dau. Nyni a orfu, wedi'r ymryson ddygn, ac ni theimlais gymaint ias yn fy ngwythi, o guro dwylo'r dorf, fyth wedyn, ag a wneuthum y sioe gyntaf honno. Cipiais wobrau afrifed ledled y wlad, ac os fyth y deuwch i'r Hafod, ewch i'r ys- tabl a syllu ar y rhestri coch ar y distiau, sy'n dystion distaw i benllanw fy ngogon- iant i. Ciliodd y gogoniant. Ni byddai byr- dwn byddarol y bandiau mwyach ond symbal yn tincian yn fy nwyglust bŵl. Haws cofio'r dyddiau du, pan lusgwn yr hen frodorion i'w hun olaf dan yr yw. Myfi oedd ceffyl hers yr ardal, nes i'm cnawd lesgáu. Y cyfnod rhwng pen- llanw'r arddangosfa a thrai y dadfeilio oedd hwn. Yr oeddwn yn rhy gastiog yn fy ieuenctid i gludo'r meirw, a bellach euthum yn rhy ddi-nwyd. Cofiaf fynd â meistr druan ar ei siwrnai olaf. Ni wydd- wn hynny ar y pryd, nes i'm greddf sicr fy argyhoeddi o'r ffaith, wedi colli ei law garedig ar lwybr gorchwyl y tir. Gan nad oedd i'r hen ŵr etifedd na pherthynas, gwerthwyd yr Hafod a'r stoc, gyda'i gilydd, i ryw ddieithryn, ac o'r awr honno, trallodus fu fy nyddiau. Peirian- nau a ddefnyddiai i aredig a llyfnu a chasglu'r grawn, a gadawyd fi, fel pelic- an yr anialwch, i fyw neu farw, haf a gaeaf, hwyr a gwawr, ar yr hen gae bach, lIe y blodeuai'r ddraenen wen mor ogon- eddus, ugain mlynedd yn ôl. Diolchais am yr ysgafnder newydd a ddug y tynied- ydd i'm bywyd, eithr ffieiddiais esgeulus- tod y meistr newydd ohonof, wrth gofio gofal annwyl yr hen. Diflannodd fy nghymdeithion o un i un, i ffair, i farchnad,i anhysbys hynt A minnau'n unig, unig, fel pe bai ysbryd fy hen feistr annwyl, yn mynnu cadw fy ngweddill crin tu fewn i'r ffin na wybûm ei chroesi ond ar ddydd sioe, neu ffair neu angladd. Buan y dirwyn fy nyddiau i'r pen, ac ymdawelwn o'm dolur, pe cawn sicrwydd y llusgir finnau y dydd hwnnw, i ymyl y twmpathau gwyrddion-beddau proff- wydi fy hen ach-yng nghornel y cae bach.