Hunangofiant Hen Geffyl Gan JOHN RODERICK REES. PETH go anghyffredin yw i hen geffyl olrhain troeon ei yrfa; mwy anghyff- redin fyth i'm bath i, sydd wedi treulio ei oes yn geffyl un ffin ac un to. Eithr nid ymddiheuraf am groniclo'r daith; canys canwyd clodydd ac anghlodydd y gwibiaid a'r crwydriaid, ac esgeuluso y rhai a ar- hosodd gartref. Rhywle ar y ffin rhwng Mai a Meh- efin y'm ganed i. Geill na chofia dyn ddechrau ei daith, ond erys yn fyw iawn i mi ryfeddod dydd fy ngeni. Yn y cae bach triongl wrth dalcen ffermdy'r Hafod y diosgais fy amwisg ac ymunioni. Gwyrai draenen unig dros y fan, yn llesg gan y gawod flodau a ddisgynai arni mor lladradaidd, fel y sylwais droeon wedi hyn. Ymegnïai'r glaswellt o gylch carn- au mawr fy mam a chladdu fy nhraed bychain innau yn eu hirdwf moethus. Yr oedd fy mam yn hen; a rhyw 'gyw melyn olaf' annisgwyl oeddwn i, wedi i'n hen feistr dybio fod dyddiau ffrwytho ac aml- hau yr hen gaseg druan wedi mynd heibio ers tro. Ni theimlais fyth wedyn ryddid di- lyffethair yr haf cyntaf hwnnw. Clera a swatio'n swrth yng nghysgod yr hen ddraenen; ras wyllt mewn afiaith ebol- aidd; pawennu'r ddaear; yna'n ôl at mam a drachtio'n dawel o ffynnon fy nghyn- haliaeth i. Felly y dirwynai'r dyddiau, o un i un. Cefais gymdeithion newydd hefyd, lloi ac Wyn-a dyn, y creadur dwy goes lladradaidd y dysgais ei ofni yohydig a'i barchu fwy. Daeth diwedd disyfyd ar y baradwys. Ryw noson aed â mam a minnau i ryw gell dywell, a heb i mi sylweddoli'r didol, yr oeddwn wrthyf fy hun, yn y tywyll- wch, yn gweryru a dawnsio a chrynu, a'm calon fach yn curo fel gordd y gof. Dôi fy meistr i'm gweld yn fynych, fynych ac yn raddol cynefinais â'r drefn newydd. Dyrnaid o wair persawrus yn y rhastal, siaff a dyrnaid o flawd, ac awr neu ddwy ddiddan, ddiofal gyda'm chwaer hyn yng nghae fy ngeni,-cyn fy nghyrohu eil- waith i ddiddosrwydd fy nghell. Dyna swm fy nyddiau yr adeg honno. Byd diddan oedd hwnnw, a'r unig smotiau du- on ar y ffurfafen honno yw'r atgof braw- ychus am y gŵr â'r gyllell hir a fyrhaodd fy nghloren. Gwanwyn arall a haf a phenrhyddid; yna gaeaf a chaethiwed (coler yn fy mhen y tro hwn), ystabl, a 'meistr yn dal i'm porthi, mor gyson, mor faethlon. Yr oeddwn wedi codi fy nannedd tair pan wisgwyd fi mewn cadwynau a lledr, a'm bachu wrth ddarn o bren. Tynnais yn dawel bach, heb na stranc na phlwc, ac wrth fy nihatru o'r cadwynau, gwresogodd fy nghnawd ieuanc dan gyffwrdd ysgafn canmoliaeth fy meistr. Buan y deellais mai dechrau gwaith oedd hyn. Ddydd ar ôl dydd, y gwanwyn hwnnw, llusgais yr og, ar hyd y tir coch, yn un o dri, fy mam yn prysur lesgáu ar un ochr imi, ac ebol ieuanc, fel mi fy 'hunan, yr ochr arall. Glynai'r chwys wrth fy nghroen erbyn yr hwyr, er arafed y llywiai y meistr mwyn nyni; ac yr oedd awch bwyd arnaf pan glywn ddad-fachu'r tresi gyda'r hwyr. Rhoddwyd fi rhwng dwy siafft y gert hefyd, a theimlais ryw nwyd aflonydd yn fy nghorddi, yn swn yr olwynion o'm hôl. Eithr buan yr ymdawelais, a chynefino hyd yn oed â thinc soniarus y llestri llaeth ar ben y fainc garreg yng ngenau'r lôn. Cofiaf yn dda y dydd cyntaf i mi weld y ffordd fawr. Yr oedd fy mam wedi gorffen ei dydd gwaith ac wedi ei daearu yng nghysgod y twmpathau gleis- ion yng ngodre'r cae triongl. Nid hir- aethais i, fel y gwna dyn, canys tyfaswn erbyn hyn yn rhy fawr ac annibynnol i'w chofio hi. Eithr o'i cholli, daeth newid arall i'm rhawd. Yr hen gaseg gynt a gludai fy meistr ar y cyfrwy, neu rhwng dwy siafft y gig, pan âi ar dro i ffair neu farchnad. A chan mai fi oedd yn yr olyn- iaeth, rhaid oedd fy mhedoli a'm cym- hwyso i ddilyn yn ôl ei thraed. Dych- rynwn, ar y cyntaf, pan ymaflai'r gof yn fy nghoesau, ond o fynych ymgydnabod,