Hacrwch y tai, y tipiau glo a'r gweithfeydd, a sirioldeb y trigolion-dyna, y mae'n debyg, nodweddion arbennig Cwm Rhondda. Gwelodd George Chapman hyn ar ei ami ymweliad â'r cwm, ond gwelodd ef yn ddyfnach hefyd. Yn ei ddarluniau gwelir olion caledi, ystyfnigrwydd er gwaethaf amgylchiadau, a doethineb a dyf o adfyd ar wynebau ei gymeriadau. A'r cymer- iadau hynny-gweithwyr yn aros am fws neu'n dod o'r dafarn, gwragedd yn sgwrsio neu'n golchi, plant yn mynd i'r ysgol neu'n chwarae ar gornel stryd. Y mae ganddo nifer o luniau bach 'Mamgu,' Gŵr mewn cot law,' 'Gwraig yn cario dillad golch.' Yn y rhain portreadir dyn yn ymdrechu yn erbyn ei amgylchedd. A dyn sy'n ennill. Cyhoeddi buddugoliaeth dyn y mae Chapman, a'r fuddugoliaeth honno wedi ei hennill, nid wrth ganu a meddwi a chwerthin ond yn hytrach wrth droi hacrwch yn brydferthwch. Yn y rhesi o dai a chapeli a thafarnau diaddurn a'r strydoedd rhiwiog, sy'n flinder í lygad a chalon y rhan fwyaf ohonom, gwelodd yr arlunydd hwn liwiau annisgwyl a phatrymau dirif yn brofion buddugoliaeth dyn. Mewn sgwrs cyfaddefodd wrthyf ei fod yn rhyfeddu beunydd at synnwyr lliw trigolion y Rhondda. The Pink Church' yw teitl un o'i ddarluniau. Nid lliwiau llachar ysbeidiol yw lliwiau Chapman, ond lliwiau parhaol fel melyn golau, coch golau a llwyd golau-lliwiau bodlonrwydd. Gwelwyd darluniau lawer yn ceisio portreadu ardaloedd diwyd- iannol mewn arddangosfeydd Cymreig. Yn wir aeth yn ffasiwn i beintio "wyneb trist y gwaith" er mwyn ymddangos yn fodern. Ymhlith y llu arlunwyr sy'n ymfodloni ar arbrofi â ffurfiau'n unig saif George Chapman a'i weledigaeth glir synhwyrus o Gwm Rhondda fel athronydd doeth. Dyma, mi gredaf, ei bwysigrwydd yn natblygiad arluniaeth Gymreig. Cafodd weledigaeth gyflawn a mynegodd hi yn glir. Ni rwymir ef gan unrhyw ragfamau ynglyn â'i destun. Gwêl ef yn hollol wrthrychol ac eto'n llawn cydym- deimlad. Gwnaeth Chapman ddarganfyddiad mawr pan ymwelodd gyntaf â'r Rhondda. Ei berygl yn awr fydd gwrthod darganfod ymhellach. Yn yr arddangosfa o'i waith yn Llundain nid oedd un enghraifft ohono'n ceisio dyfnhau ei brofiad trwy arbrofi â ffurf a lliw. Yr oedd pob darlun ar yr un lefel. Rhaid iddo geisio ymhellach os myn ef gadw ei brofiad yn fyw a'i neges yn newÿdd. Y mae'n gyfnod o ddatblygu aruthrol ar arluniaeth Gymreig heddiw. Yn y datblygu hwnnw y mae i George Chapman ei le. Cafodd ef rywbeth gwerthfawr iawn yng Nghymru, ond y mae ganddo rywbeth llawer mwy gwerthfawr i'w roi yn ôl. GERAINT STANLEY JONES