Llÿthyr O lyN I Philip a Roger, pa le bynnag y bônt. Pa Ie bynnag y cwyna'r gwynt o'ch cwmpas chwi heddiw, hwyrach y chwyth fy neges, ac fe garwn i chwi wybod. Euthum i chwilio'r wlad lle mae Llyn y Felin yn fyw o bysgod arian pan ddaw'r Hydref; o gylch y garreg honno, lathen fach o'r glaswellt, gwelais eto frithyllod yn campio a'u cylchoedd yn cerdded blith draphlith ar draws y dwr i gyfeiriad y Garn a'r coed a Chastell Madryn, lle mae'r giât dan glo a chlychau'r gôg yn sgwrsio yn y gwynt ym mhob Mehefin. Gwlad i blant yw hi, holl bobloedd y byd yn rhan o lwyni'r parc ar hyd prynhawniau haf, oesoedd bwygiîydd yn chwarae o amgylch y cangau mor rhwydd, a phelydrau'r haul yn tywynnu'n feunyddiol. Euthum i chwilio'r wlad. Ar wal y Felin islaw Tŷ Mwg eisteddai Huw. Ym môn y Garn y treuliodd hwn ei oes-ar wahân i ffosydd mwdlyd Ffrainc yn y Rhyfel Mawr, a Duw a ŵyr 'doedd hynny fawr o wyliau cyfandir i neb. O dymor i dymor cyfarwydd oedd â'r niwl yn crynhoi ac yn troelli uwchben. Un noson felly ffrwydrodd y byd yn sydyn i ganol Madryn. Er na wyddwn i pa beth oedd rhyfel, 'rwy'n cofio'r ystwyrian a'r clebran o gylch y bont, a'r ardal yn mynd am y mynydd i gasglu gweddillion awyren a'r gŵr a'i gyrrodd i grombil y graig. Un o'r rhain oedd Huw, yntau'n rhan o'r rhyfel hwn hefyd heb symud un cam o Lyn. Gwrandawai'r newyddion a chlywed am fomiau a thân mewn dinas ac ambell dro, yn nhwll y nos, gwybod â'i glustiau a'i nerfau ei hun ystyr y cynnwrf a boenai'r sêr uwch ei ben. Ond am ryfel arall ac am faes gwahanol y dychmygai ef budreddi Fflandrys fyddai rhyfel iddo byth mwy. Fe aeth i gyrchu'r corff gyda'i ffon a'i lantar heb gysylltu'r peth â'i sgwrs wybodus ei hun am arafwch brwydr.