Brad. Ychydig a ddaw o ddwylo nac o enau Saunders Lewis nad yw'n cynhyrfu'r dyfroedd yng Nghymru ac y mae hynny ynddo'i hunan yn werthfawr gan mor brin yn ein bywydau yw hogi meddwl a miniogi barn. Eithr wedi perfformio Brad cafwyd datblygiad newydd yn yr ymateb, sef codi o garfan a fynnai fynd i eithafion beirniadaeth a hynny'n unig er mwyn milwrio yn erbyn y cwltws a dyfodd o gwmpas person Saunders Lewis, ac am hynny nid yw Brad wedi cael yr ystyriaeth a haedda. Nid ar y dyn y mae'r bai os tyfodd cwlt o'i amgylch a cham dybryd yw dilorni ei waith diweddaraf er hyrwyddo teimladau personol yr wrthblaid. Yn yr erthygl hon ceisir ymdrin â dwy feirnìadaeth gyffredinol a wnaed yn erbyn y ddrama a cheisir gwneud hynny heb ystyried rhag- farnau ynglyn â sfatws y dyn a'i hysgrifennodd. Un o'r cwynion a wnaed am y ddrama newydd hon ydoedd ei bod yn dystiolaeth bellach i'r gred nad yw Saunders Lewis yn tynnu maeth ei fyfryrdod a'i lenydda o'r bywyd Cymreig. Y mae hwn yn gyhuddiad pitw ac ni fyddai'n werth ei ystyried onibai fod cynifer o Gymry sy'n cael cryn amlygrwydd yn gwneud y cyhuddiad. Wedi cael ei glodfori cyhyd am fod yn Ewropead mawr wele'n awr nifer o bobl o'r un osgo wleidyddol â'r llenor yn ei gondemnio am ddwyn digwyddiadau o bwys yn hanes Ewrop a'u troi yn ddeunydd drama. Rhagrith a hunanoldeb pechadurus yw tybio yng nghanol yr ugeinfed ganrif, na ddylai llenor o Gymro drafod yn ei famiaith bynciau a phrofiadau na chodant yn uniongyrchol o dir a daear Cymru. Y mae tybio hynny yn gwneud rhamant o Gymreictod ac yn ei ddarostwng i fod yn ddim ond talp o brofiadau llesmeiriol ynglyn â chrair y mae'n rhaid ei warchod rhag mfeiriant gogoneddus bywyd. Un o amodau amlycaf ffyniant y Gymraeg a Chymreictod heddiw yw eu parodrwydd i addasu eu hadnoddau at holl amryfal ofynion bywyd, ac y mae gwrthod mynediad i drafnidiaeth feddyliol y pum cyfandir i mewn i'n hetifeddiaeth Gymreig yn gyfystyr â thorri un o'r gwythiennau hanfodol. Nid oes gennym hawl i wneud hynny ac y mae'r neb sydd yn ei gymell yn euog o gyfrannu at hunan-laddiad y genedl. Eithr i lawer ar y llaw arall, y mae gweld ein hiaith yn cael ei defnyddio, mor rhwydd ac mor gelfydd, i drafod pethau sy'n anghynefin i fyd ein profiad, yn wefreiddiol yn ei newydd-deb ac yn obaith yn yr anialwch. Beirniadaeth arall a wnaed ar "Brad" ydoedd fod Saunders Lewis wedi meiddio portreadu nifer o swyddogion y fyddin Almaenig fel dynion a feddai ar rhyw gymaint o gydwybod yn