Sylwadau. Yn Stockholm heddiw, a hithau'n ddegfed o Ragfyr, dylasai Boris Pasternak dderbyn Gwobr Nobel 1958 am lenyddiaeth. Nid yw yno, ac am y tro cyntaf erioed y mae gwobr lenyddol bwysicaf y byd wedi ei gwrthod. Gwyr pawb o ddarllenwyr Yr Arloeswr stori'r gwrthod. Yn holl hanes gwareiddiad ni chafodd yr un dyfarniad llenyddol gymaint o gyhoeddusrwydd. Achos y cyffro a'r cyhoeddusrwydd oedd nofel Pasternak. Doctor Zhivago. Yn 1956, ac arwyddion bod y cyfyngiadau haer- naidd a fuasai'n llyffetheirio awduron Rwsia oddi ar 1930 yn dech- rau llacio, cyflwynodd Pasternak ei nofel i'w chvhoeddi ym Moscow Fe'i gwrthodwyd. Ond yn y cyfamser rhoesai Pasternak gopi o'r gwaith i'r cyhoeddwr o Gomiwnydd a'r Eidalwr, Feltrinelli, a chyhoeddodd ef hi ym Milan. Yna ddeufis yn ôl dyfarnodd Acad- emi Sweden Wobr Nobel i Basternak (gwobr sydd, gyda llaw, yn gyfwerth â £ 14,790 yn ein harian ni). Torrodd y storm ar unwaith, a chwythodd ei swn led-led y byd. Yn ei nofel rhoesai Pasternak fynegiant i rai syniadau hereticaidd o safbwynt Rwsia, syniadau a oedd yn gwrthdaro yn erbyn yr idealeg sy'n sail i'r wladwriaeth Sofietaidd. Mynnai Moscow mai gweithred wleid- yddol, wedi ei swcro gan feirniaid bourgeoisie 'r gorllewin, oedd i Sweden anrhydeddu awdur y fath 'heresi,' a bwriwyd cawod o ymosodiadau llysnafaidd ar ben Pasternak. Yn anochel tyfodd yntau ym marn boblogaidd y gorllewin yn gymar i arwyr gwrth- ryfel Hwngari. Aeth llenyddiaeth yn dwlsyn yn y rhyfel ideal- egol, syrthiodd yn ysglyfaeth i wleidyddion a moesegwyr. Canol- bwyntiwyd ar rai syniadau yn Doctor Zhivago ac anghofiwyd i raddau waith Pasternak y bardd. Y mae'r holl gyffro yn engh- raifft eithafol o beryglon dwyn ystyriaethau allanol, nad oes a wnelont â gwerth llenyddiaeth, i dywyllu'r farn lenyddol. Dig- wyddodd peth tebyg droeon o'r blaen-pan ymddangosodd Atgof a Monica, er enghraifft. Fel Doctor Zhivago, parodd y gweithiau hynny hefyd gyhoeddusrwydd anllenyddol afiach ac anffodus. Y gwahaniaeth gyda nofel Pasternak yw fod y cyhoeddusrwydd y tro hwn ynghlwm wrth wleidyddiaeth ryngwladol. Tramgwydd- odd ef wladwriaeth Rwsia ac nid dosbarth o Biwritaniaid cysetlyd a rhagfarnllyd. Cyfeiriwn at hyn er mwyn i ni ein hatgoffa ein hunain y gallwn ninnau fod yr un mor annheg tuag at lenorion â llywodraeth Rwsia, er na feddwn ni, drwy drugaredd, gyfran o'i gallu erlidiol hi.