Llwyfan." 3. LLENYDDA YN GYMRAEG- PAM? Ar un olwg cwestiwn yr iaith yw'r pwysicaf sy'n wynebu Cymru heddiw. Oherwydd ynghlwm wrth yr iaith y mae holl gwestiwn bodolaeth y genedl a'i pharhad. Mesur clefyd ein cenedl heddiw ydyw'r ffaith fod cwestiwn yr iaith yn tueddu i gael ei wrthio i'r naill ochr, a chwestiynau materol ac economaidd yn cymryd ei Ie. Ni fynnwn i neb fy nghamddeall. Nid dweud yr wyf nad yw'r cwestiynau economaidd yma'n bwysig, yn wir yn bwysig iawn, ond y mae'r diffyg ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cwestiwn yr iaith yn arwydd o'n hesgeulusdra o werthoedd ysbrydol. Y mae bodolaeth problem yr iaith ynddi ei hunan yn arwydd o glefyd. Ond y mae gwr sy'n gwrthod cydnabod ei fod yn afiach mewn gwaeth cyflwr na'r hypochondriac sydd byth a hefyd â'i fys ar ei bwls yn gwrando curiadau ei galon. Ofer yw meddwl y gall cenedl felly wynebu hyd yn oed ei phroblemau materol. Nid oes dim sy'n peri mwy o ddiflastod i ddyn heddiw na gwylio'r modd y mae Cymru yn ceisio setlo ei phroblemau. Ond nid fy mhwrpas ydyw ceisio trafod y wedd yma ar ein prob- lemau, ond yn unig awgrymu ar y dechrau fod un ateb i'r cwestiwn a osodais yn deitl i'r anerchiad hwn yn gorwedd yma.* Efallai mai'r ffaith fod y bardd a'r llenor, yn anad neb, yn ymwybodol o'r broblem hon, a'i phwysigrwydd sy'n peri ei fod yn dal i lenydda yn Gymraeg. Mewn adolygiad Saesneg ar un o ddramâu Mr. Saunders Lewis, gofynnodd yr adolygydd yr union gwestiwn yma. Dyfynnaf ef yn Saesneg he is one of the most interesting dramatists to emerge in Europe in the last twenty years, and the greatest dram- atist produced by Wales in her own history. His obscurity is his own choice, and he raises above all the vital question of how an atrist-and Saunders Lewis is an artist-has the right to throw away his gifts in the interest of a narrow, national idealism. Traddodwyd i gyfarfod blynyddol Dosbarthiadau Allanol Coleg y Brifysgoì, Bangor, Ebrill 19, 1958.