beth hamddenol o anghenraid. Hanfod cymdeithas lenyddol Paris a Llundain yw trafod a siarad naturiol yng nghwrs bywyd bob dydd ymhlith llenorion sy'n adnabod ei gilydd yn dda. Ni cheid hyn o wahodd nifer o bobl at ei gilydd i Landrindod am ddeuddydd neu dri. Collid un o nodweddion mwyaf gwerthfawr canolfan lenyddol iach, sef clwstwr o grwpiau bychain annib- ynnal. Wercws fyddai yn hytrach na theulu o aelwydydd. Ni cheid ychwaith ymddiddan ac anghytuno rhwng artistiaid o bob math, ac nid rhwng llenorion yn unig, ac y mae hynny hefyd yn bwysig. Y mae posibilrwydd arall yng Nghymru. Gallai rhyw Gymro cefnog, diwylliedig agor drws ei dy i lenorion ac artistiaid fel y gwnaeth Ceridwen yn Ffenestri Tua'r Gwyll. Nid yw'n ateb delfrydol ond y mae'n rhagori llawer ar yr Ysgol Haf gyn- adleddol, a chan nad oes i'n cenhedlaeth ni yng Nghymru un gobaith am brifddinas Gymreig sy'n brifddinas mewn gwirionedd ymddengys mai dyma'r dewis gorau inni. Ond y mae'r posibil- rwydd hwn yn codi pwnc arall, sef pwnc nawdd. Gadawn hwnnw i'w drafod eto. Y mae gennym ni barch mawr i Lleufer fel cylchgrawn. Y mae fel rheol yn raenus ei gynnwys ac yn gatholig ei chwaeth, a haedda glod arbennig am ei adolygiadau gofalus. Ond y dydd- iau diwethaf hyn cyhoeddwyd rhwng ei gloriau sylwadau ar waith Euros Bowen y mae'n ofid i ni weld eu cyflwyno fel barn ystyriol ar waith creadigol. Y mae adolygiad o'r fath yn pwys- leisio'r angen inni ystyried unwaith eto beth a olygwn wrth feirn- iadaeth lenyddol. Anwastad, a dweud y lleiaf, yw ansawdd ein beimiadaeth lenyddol ni yng Nghymru. Y mae hyn yn wendid sylfaenol yn ein llenyddiaeth, gan fod beirniadaeth gytbwys a gwybodus, a honno wedi ei seilio ar rai egwyddorion llywodraethol, yn anhep- gor i gelfyddyd iach. Y mae ar y beirniad llenyddol ddylet- swydd i'r cyhoedd ac i'r llenor. Cyflawna ei ddyletswydd i'r llenor trwy ufuddhau i'r rheolau a osododd Aristoteles i'r beimiad drama ond sydd yr un mor addas i bob beirniad llenyddol. Dyw- edodd Aristoteles y dylai'r beimiad yn gyntaf oll geisio deall beth y mae'r llenor yn ceisio'i drosglwyddo. Wedi gwneud hyn rhaid iddo astudio'r cyfrwng a ddewisodd y llenor i gyfleu ei brofiad. Yna, yn drydedd, gall symud ymlaen i ddatgan barn ar addas- rwydd y cyfrwng i'r neges ac ar werth y neges ei hun. Pan fetha'r beirniad a chroesi'r gamfa gyntaf dywed Aristoteles, a dywedodd beirniaid eraill ar ei ôl, o Dryden i Saint-Beuve, nad oes ganddo hawl i feirniadu. Felly hefyd, heb feistroli'r ail gamp, sef gweld yn union sut y trosglwyddodd y llenor ei brofiad,