Sylwadau. Llenyddiaeth Paris yw llenyddiaeth Fírainc. Llenyddiaeth Llundain fu llenyddiaeth Lloegr hiihau-hyd at yr ail ryfel byd, beth bynnag. Ond ni fedrai neb, pa mor huawdl bynnag fyddo, honni am eiliad mai llenyddiaeth Caerdydd yw llenyddiaeth Cymru. Yn hytrach llenyddiaeth ar wasgar ydyw. Y mae'r rheswm am hynny yn ddigon amlwg. Yn wahano] i Ffrainc a Lloegr nid oes yng Nghymiu ganolían llenyddol. Yn ddiweddar trafodwyd y pwnc hwn yn un o'n papurau wythnosol. Yn Y Faner dadleuodd Ffraid y byddai canolfan i lenorion yn beth da i ninnau. Prif werth canolfan lenyddol yw ei bod yn gartref ymddiddan. Dyna yw Paris a Llundain-Paris yn arbennig. Yno cyferfydd artistiaid o bob math-yn feirdd, nofelwyr, dramodwyr, beirniaid llenyddol, arlunwyr, cerflunwyr, cyfansoddwyr cerddorol, actor- ion a newyddiadurwyr-i drafod hynt a helynt cymdeithas a phroblemau a thueddiadau celfyddyd. Y mae'r trafod hwn yn hogi eu syniadau ac yn ysbrydiaeth i'w gwaith. Y mae'n gyfle hefyd i'r adweithio hwnnw rhwng gwahanol bersonoliaethau sy'n ysbardun mor ffrwythlon i gelfyddyd. Yng Nghymru ni allwn ni gael canolfan fel hyn, am nad oes gennym brifddinas Gymreig. Dyma un o'r anfanteislon y mae'n rhaid i wlad ddwyieithog a gwlad sydd ynghlw;n wrth wlad arall eu goddef. Pe byddai Caerdydd yn wir brifddinas-pe byddai holl fywyd Cymru yn troi o'i chwmpas-a phe byddai'r Gaerdydd honno yn Gymreig ei hiaith a'i bywyd yna fe dyfai'n naturiol yn ganolfan lenyddol. Golygai hynny fod ynddi sẅyddfeydd newydd.adurol a chwniau cyhoeddi, ysgolion celf ac actio, theatr genedlaethol a thy opera, ysgol gerdd a cherddorfa sefydlog, a'r cwbl yn Gymreig ac yn Gymraeg. Y mae hyn yn amhosibl. Ac y mae'r bwlch yn ein bywyd cenedlaethol yn codi problem arbennig i'r artist o Gymro. Cyfeiria Bernard Rands at un agwedd arni yn Arolwg Cerddoriaeth y rhifyn hwn. Dengys ef mor anodd yw hi i'r cyfansoddwr Cymraeg, ac yntau dan orfod i droi'n alltud er mwyn dysgu ei dechneg, gyfiwyno ei waith i gynulleidfa o Gymry. Beth, ynteu, a ellir ei gael yng Nghymru ? Y mae'n debyg mai'r hyn sydd gan Fíraid ac eraill yn eu meddwl yw rhyw fath o ysgol haf i lenorion Cymraeg, rhyw fath o Babell Lên gartrefol lle y gallant gydgyfarfod i fwrw'r Sul ac i siarad. Byddai'n eithaf posibl trefnu canolfan o'r math yma, ond amheuwn faint o werth a fyddai iddi. Canolfan artiffisial fyddai. Rhy frysiog fyddai'r cydgyfarfod ynddi, ac y mae cyfnewid syniadau yn rhyw-