A'r rhodd bennaf o'r holl roddion naturiol i ddyn yw rhodd yr artist, beth bynnag a fo'i faes-y ddawn i weld rhywbeth nas gwelwyd erioed gan neb o'r blaen yn hollol yr un tath, ac o'r weledigaeth honno ddwyn rhywbeth newydd i fod a ddyry bleser yn 'gystal ag ysbrydiaeth i eraill. Mi wn y dadleuir gan lawer mai rhywbeth yn bod er ei mwyn ei hun yw celfyddyd, ac mai ei phennaf amcan yw diddanu, heb fod ynddi unrhyw berthynas o angenrheidrwydd â moesoldeb fel y' cyfryw. Ond, yn sicr, nid dyna'r ddirnadaeth uchaf ohoni. Perthyn i gyfnod dirywiedig ar gymdeithas y mae'r syniad yma am gelfyddyd,pan lygrwyd eii rnin er budr-elw i'r ychydig a phleser gwag i'r lliaws a chrefydd, os crefydd o gwbl, yn ddim ond confensiwn barchus ar yr wyneb. A chyfyngu yr ychydig weddill o'm gofod i'r llenor, ynteu, ni welaf i sut y gall yr un dyn o ddeall a chydwybod ac a gymer fywyd fel rhywbeth o ddifrif, heb sôn am y Cristion a'i ddel- frydau arbennig ef, beidio a chymryd rhan, a hynny hyd eithaf ei allu, ym mhroblemau'r byd o'i gwmpas. Fel Cymro yr wyf fi'n siarad, wrth gwrs, am y rheswm syml na allaf siarad fel neb arall. Ond nid Cymru yw'r unig wlad fach mewn hanes y byg- ythiwyd ei bodolaeth gan nerthoedd a dylanwadau o'r tu allan iddi, ac yn fwy byth gan y llwfrdra a'r diffrwythdra moesol o'i mewn hi ei hun. Allan o gyfnodau ac amgylchiadau yn hanes Israel gynt, nid llwyr annhebyg i'r eiddo Cymru heddiw, y cafodd y byd rannau o'i lenyddiaeth odidoca'r oesoedd, a hynny, cofier, nid gan feirdd a llenorion wrth grefft, — nid oedd y fath bobl yn bod yn eu hamser hwy-ond gan bropagandwyr cymdeithasol a chenedlaethol mawr eu dydd, gwyr a welent yn ddyfnach ac yn gliriach na neb arall arwyddocâd y pethau a ddigwyddai o'u cwmpas gan eu pwyso a'u mesur yng nghloriannau'r nefoedd yn ôl fel y'u hamlygid iddynt yn eu cydwybodau eu hunain. O'u hiaith brin lluniasant feddyliau ac ymadroddion sy'n atsain o hyd yng nghlustiau plant dynion. Llenorion dan angerdd cydwybod oedd y rhain a gadwodd Israel yn genedl hyd heddiw, ac a baratodd feddwl byd ar gyfer y Datguddiad llawn o Dduw. Trodd prop- aganda'r dydd yn llenyddiaeth yr oesau ac yn efengyl o wirionedd tragwyddol. Y mae yng Nghymru heddiw, diolch i'r nefoedd, cyn sicred ag yr oedd yn Israel gynt, broffwydi, gwyr sydd yn teimlo hyd ddyfnder eu henaid gyflwr eu cenedl eu hunain, gwyr sy'n ym- dreulio beunydd beunos, gnawd, meddwl ac ysbryd i geisio gwneud a allont i'w chadw rhag tranc a marwolaeth mewn gwarth ac anghlod oherwydd difaterwch y lliaws o'u cwmpas. A'r peth sydd wedi bod yn fy synnu i drwy'r blynyddoedd yw fod rhai o'n llenorion mawr, o weld hyn o11, yn gallu sefyll o'r neilltu yn llipa heb wneud unrhyw osgo i gynorthwyo yn y frwydr mewn