Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ystyried. 3. Y Nofelydd a'r Achos Mawr. Yn y tridegau (sef o 1930 — 1942 dyweder) bu llawer o ddad- lau ac athronyddu brwd ynglyn â chysylltiad y llenor neu'r artist â gwleidyddiaeth, yn neilltuol felly gwleidyddiaeth yr adain Aswy, set sosialaeth, marcsiaeth, comiwnyddiaeth, neu rhyw gyfuniad neu gybolfa arbennig ohonynt. Hwn oedd maes trafod y to ohonom a oedd yn fyfyrwyr ar y pryd ym Mhrifysgol Cymru a hwn, debygwn, oedd y pwnc a drafodid gan fyfyrwyr o gyffelyb anian ym mhrifysgolion Lloegr hefyd yr un amser. Yr oedd y sefyllfa wleidyddol ar y pryd yn dra syml, neu felly y tybiem. Ar un llaw yr oedd dirwasgiad a chyni na bu mo'i debyg ymhlith y werin gyffredin ers cannfoedd anghyflogaeth a diffyg gwaith enbyd yn yr ardaloedd diwydiannol; tlodi ac angen ar y tir, ac ymhlith myfyrwyr, sicrwydd na byddai swydd ar eu cyfer ar derfyn y cwrs yn y coleg. Gwreiddyn yr holl ddrwg oedd cyfal- afiaeth y miliwnyddion diogel a'u cynrychiolwyr gwleidyddol yn y Llywodraeth a oedd yn torheulo ar draethau hyfryd y byd y perchnogion diwydiannol a'r landlordiaid yn y wlad. Hwynt hwy oedd y gormeswyr. Yn Rwsia, fodd bynnag, dymchwelasid y dosbarth cyfalafol a ffiwdalaidd gan Chwyldro Hydref 1917, ac yn eu lle sefydliesid gweriniaeth gan y bobl gyffredin o dan arweiniad y blaid Gom- iwnyddol. A'n dyhead ni, lawer ohonom, oedd rhoi help llaw i sefydlu gweriniaeth gyffelyb ymhob cwr o'r byd. Wrth gwrs, byddai'n frwydr bocth, canys nid ar chwarae bach y cydsyniai'r cyfalafwyr i gymryd eu difodi. Yn yr Almaen, cawsant flaencad i'r gwrthchwyldro yn Hitler; yn Sbaen, Ffranco; yn yr Eidal, Mwsolini ym Mhwyl, y Cymol Beck a Sicorsci (aie ? Atgof go bell yw'r holl enwau hyn yn awr) yn Ffrainc, y Cagoulards a'r Action Francaise. Dyma warchodwyr yr hen drefn a hwy oedd galluoedd y tywyllwch yn y cnawd. Ein dyletswydd syml ni oedd eu hymladd gyda phob offeryn posibl. Un o'r offerynnau oedd llcnyddiaeth yn ei holl ffurfiau-barddoniaeth a rhyddiaith, nofel a stori, baled a phryddest a soned. Dyna a oedd gennym mewn cof pan aem ati yn frwd iawn i drafod llenyddiaeth a phropaganda hyd oriau mân y bore mewn llety a chartre, lawer, lawer tro. Rheidrwydd brwydr oedd llenydda nid mympwy ramant- aidd i ymbleseru â hi pan ddigwyddai ddod heibio inni. Nid ysbrydoliaeth nac awen oedd ei grym cychwynnol a chynhal- iol ychwaith ond penderfyniad bwriadus ac ymwybodol wedi ei