Y TAIR COLOMEN. ^™*9* (Coffa am T. Gwynn Jones). Heddiw'r peth diwethaf fe'u gwelais, yn gynnwrf o'u golwg,-adar o froydd hud ar freuddwydion, tair buain a hedai i wigoedd y tu hwnt i'r boenedigaeth. Delw o fro hud dclfrydiaeth oedd y fwyn gyntaf un, a gwyn y dylifai o allu ac anadl Afallon a dail ei choed eli. Nid oedd ôl haint na henaint arni hi, nac ôl cwyn na gwely cyni, ac o weld ei thwf a gwylicd ei thaith, âi'r enaid i'w llwybr ei hunan. Troai'n glir uwch trueni'n gwlad, a nos hir yn hanes hon yn crynhoi ar hyd cyrrau ein hiaith. Harddwch oedd yr ail a gerddai'n rhywiog drwy'r awyr. Nid erys am fod ei hiraeth yn donio'i hadenydd. Brysiai i wawl hen Broséliawnd,-bro o risial lawnder, bro oesau o lendid, bro cau hud a hedd gan lwyni, bro coedydd a gwyn lynnoedd. Cyhyd ag y bo encilio yn cadw i go' boen calon, ni bydd i'w boddio na ffaeledig na phwl ei hadain. Llun o wedd a lliw nodded a oedd i dw'r trydydd aderyn. Diau yr hed i dy yr haul, o gywilydd am gau heulwen gan niwl dig ein heolydd oddi wrth elw ar ddiwarth aelwyd. Hcibio fel rhwyg y gwibiai o fedel maes dolef a dial ym myd, heibio i ddihewyd y medi lle boddwyd Madog, ar ei llam o'r tir i'r lle y mae'r tân yn faeth heb fethu, draw dros weddau y gwahanfor i droedio rhosydd Gwynfa. Ac o wylio fe'u gwelwn yn hedd y nen yn toddi'n un eneidfawr yn hedfan,-Cynddilig y coedwigoedd a'r cwlwm enaid rhyngddo a'r colomennod. A'r cwlwm enaid â'r colomennod a'n deil er ei fudo ef. EUROS BOWEN.