ARLUNIO. Baban iach ein celfyddyd. Arluniaeth yw baban iach celfyddyd yng Nghymru. lradd- odiad llenyddol sydd i'n cenedl. Wedi'r rhyfel cyntaf, pan siglwyd llawer o Gymry cul allan o rigolau parchus y gymdeithas Anghydffurfiol, y dechreuodd y diddordeb cyffredinol mewn arlunio am y tro cyntaf. Erbyn heddiw gall unrhyw arddangcsfa edrych ymlaen yn hyderus am tua thri chant o luniau a bydd cynrych- iolaeth deilwng iawn i'w gweld. Bu cynnydd mawr mewn cyn- nyrch a diddordeb yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, ond fe erys o hyd ddau ddiffyg. Er mwyn sicrhau ffyniant arlun- iaeth Gymreig rhaid wrth nawdd a beirniadaeth. Dibynna arluniaeth yn fwy efallai nag unrhyw gelfyddyd arall ar nawdd fel amod ei bodolaeth. Am y rhan fwyaf o'i amser byw yn ei fyd cyfrin ei hun a wna'r artist, ond ar adegau daw iddo rhyw awydd llethol i rannu cyfrinachau'r byd hwn gyda pherson arall. Dyma adeg y creu ar ganfas. Cyflawni defod trwy baent a chanfas a wna'r artist, yn ôl ei ffydd bersonol; ac yna mynd ati i droi eraill i'w ffydd ef. Y mae'r ail llawn cyn bwysiced â'r cyntaf a chyn ei gyflawni rhaid cael pobl i brynu darluniau. Heblaw hyn y mae arlunio yn fusnes drud. Un o brif achosion ein tlodi arluniol yn y gorffennol oedd na fedrai gwerin dlawd fforddio un o foethau cymdeithas, ac hyd yn oed wedi'r deffro mewn diddordeb gorfu i wyr fel Richard Wilson, Augustus John ac eraill fynd tros y ffin i chwilio am gydnabyddiaeth. Dengys methiant Evan Walters dranc yr arlunydd a fynnai aros adref a dibynnu ar nawdd Gymreig. Erbyn heddiw gwnaeth cyrff cyh- oeddus, fel Cynghorau rhai o'n trefi mawrion, Adran Gymreig Cyngor y Celfyddydau, a llu o gymdeithasau fel y Gymdeithas Arlunio Gyfoes, waith rhagorol trwy ysbrydoli a noddi arlunwyr ond fe erys yr angen am un ganolfan genedlaethol dan reolaeth Cyngor Celf Cenedlaethol. Oni fuasai'n bosibl i Gyngor yr Eis- teddfod Genedlaethol gymryd yr awenau yn ei dwylo ei hun a sylweddoli'r dyheadau hyn gydag adeilad pwrpasol yng Nghaer- dydd ? Yr Eisteddfod yw canolfan celfyddyd Gymreig am wythnos bob blwyddyn. Buasai'n orchest fendithiol pe byddai i ganolfan sefydlog dyfu allan ohoni. Dyma'r ffordd orau i noddi arlunwyr Cymreig; rhoi llwyfan i'w gwaith. Ail angen y gelfyddyd Arlunio yw Beirniadaeth. Ni ellir gobeithio codi safon unrhyw gelfyddyd nes i bobl gymeryd digon o ddiddordeb ynddi i'w beirniadu. Rhaid yn y fan hon gyfeirio at lyfr newydd ei gyhoeddi gan Harrap o eiddo David Bell, The Artist in Wales." Trwy olrhain hanes a datblygiad arlunwyr a'u celfyddyd yng Nghymru rhoddodd hwb sicr ymlaen i'r diddordeb ynddynt. Llyfr ydyw a all fod yn fan cychwyn maes newydd,