Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

arolwg. DRAMA. Ein gobaith-dranla bentref ? Y mae llawer o siarad ar droed yng Nghymru'r dyddiau hyn am sefydlu theatr genedlaethol. Ond, yn fy marn i, yr unig theatr ag iddi unrhyw ystyr i'r Cymro yw'r theatr bentref. Yn ddiweddar euthum i wylio perfformiad mewn festri capel yng Ngogledd Cymru. Nid oedd trydan eto wedi cyrraedd y lle. Yr unig olau oedd llewyrch gwan tair lamp vbaraffin a grogai'n aflonydd uwchben y llwyfan. Edrychai'r actorion fel cythreuliaid yr hen firaglau, y paent a'r powdwr yn llawer rhy drwm i'r lle a'r achlysur. Drama am ddau gariad a phregethwr a mam-yng-nghyfraith ydoedd, a chegin, wrth gwrs, oedd yr olygfa. Nid oedd y llen yn llwyr guddio'r llwyfan, a rhwng golygfeydd gellid gweld cadeiriau a byrddau yn cael eu treiglo 0 gwmpas. Ac nid oedd na threfn na dychymyg yn y cynhyrchu. Ond yr oedd un rhinwedd ddethol yn y perfformiad. Medrai bron bawb o'r actorion gyflwyno cymeriad. Medrent fyw yng nghroen rhywun arall am y tro. Mae'n debyg na welodd y Gorllewin erioed feirniad drama mwy sicr ei reddf a dyfnach ei gydymdeimlad na James Agate. Dywedodd ef un tro, the standard of amateur acting in Wales is the highest in the world." Agate hefyd a ddiffiniodd fyd y ddrama fel treipod. Dibynna hwnnw ar ei dair coes fel ei gilydd heb y ddwy arall y mae pob coes yn gwbl ddiystyr. Felly'r ddrama. Dibynna hithau ar yr awdur, yr actor a'r cyhoedd, i'll tri gyda'i gilydd. Ofnaf fod yr holl siarad am theatr genedlaethol yn anwybyddu'r drydedd o'r coesau hyn. Craffwn ar y sefyllfa yng Nghymru. Yn Saunders Lewis mae gennym ddramaydd gwell na neb sy'n ysgrifennu yn Lloegr heddiw. Mae gennym hefyd nifer o actorion galluog. Ond nid oes gennym ddrama safonol. Mae Saunders Lewis yn ysgrifennu dramau heb fawr neb yn fodlon eu llwyfannu. Mae'n hactorion yn Llundain a Stratford yn perfformio gweithiau Ffrancwyr a Shakespeare. Ac mae'r cyhoedd yng Nghymru yn fodlon ar ddramau pitw, trydedd radd. I'r mwyafrif o Gymry sy'n mynychu dramau cwmni pentref a drama fel "Chwalu'r Nyth" yw byd y ddrama. Yn Lloegr, Ffrainc a'r America, gellir cael drama safonol heb gyffwrdd â'r werin bobl o gwbl. Yno y mae nifer yr