Skip to main content

Pob hanfod unigrwydd, y mae yng Nglyn Cywarch gyntefig wylltineb, megis draw ym mhellafoedd byd, yn Alaska heddiw-neu ddoe, yng ngwlad yr hen chwedlau. Dan graig blaen-y-cwm, dacw'r tŷ, megis allor i'r duwiau anhysbys ar eithaf odreon y byd, lle mae'r plant yn ofni rhag sŵn y taranau a'r tad yn y capel bob sul yn gweddîo’n anniddig ar Dduw'r trugareddau. Cyn elwyf i gerdded y llwybr llwm caf groeso, mi wn, a chyfoeth llaeth enwyn, cyn elwyf i gerdded y llwybr sy'n arwain i fyny at y ffin ar yr uchel fynyddoedd- na ŵyr neb beth a drig y tu draw yn yr uchel dawelwch, lle mae'r awel yn gref ac yn lân, a'r hwyrddydd o haf, pan ddel, yn dyner fel wyneb gwraig. Cyfansoddwyr Ieuainc Cyfoes. Teimlaf braidd yn ofnus wrth gychwyn ysgrif ar y testun hwn. Nid ceisio beirniadu fy nghyfoeswyr yr ydwyf, oherwydd annheg ac afresymol fyddai hynny, ond rhoddi amcan am waith a bywyd rhai o'n pobl ieuainc ym myd cyfansoddi yng Nghymru. Cyfyngaf fy sylwadau i chwe aelod o'r ysgol newydd, sef, Arwel Hughes, Bradwen Jones, Hubert Rees, Kenneth Harding, Francis Williams a Grace Williams. Ganwyd Arwel Hughes yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam, yn y flwyddyn 1910. Ymddangosodd ei gariad at gerddoriaeth yn gynnar yn ei fywyd, a chyfansoddodd nifer o ddarnau offerynnol pan oedd yn yr ysgol yn Rhiwabon. Tuag ugain oed ydoedd pan aeth i'r R.C.M. yn Llundain, i astudio cyfansoddi dan yr athro enwog Vaughan Williams. Y Godreon. ALUN LLYWELYN-WILLIAMS. I.