Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Henaint. Ofer, O! Henaint hy a fyddai hidio dwrn dy dymor di, arswydo gormes dy argoelus balf, a daen ei chysgod hir cyn dod o'th awr; pan fyddo Gwanwyn bod, yn chwerthin ynof ei delyneg losg, a dyheadau fel petalau claer yn gwario'u tân a'u tegwch yn yr haul; cans gwn y daw' r tymhorau yn eu tro, pob un a' i wae a' i wynfyd ar yn ail, ac nad oes iraidd, lathraidd lanc a geidw her dy Hydref di yn ôl. W. H. REESE. Dirgelwch. A'r hydre'n gweu ei fantell rudd, Crwydrais yn fy nhristwch trwm, Ni welais ond y glaswellt cras A'r rhedyn rhydlyd dros y cwm. Y goeden draw a godai 'n flin Freichiau noeth yn aberth tlawd Y ddeilen guddiais dan fy mron, A'r awel ddur yn llifio 'nghnawd. Â'i ddwylo llaith yn glwm tu cefn Syllai plentyn llonydd syn, Fe brofai lesmair undod pur Draw ym mhellter eitha 'r bryn D. LLEWELYN WALTERS.