Yr oedd yn glawio, glaw mân tenau, ysgafn a bwysleisiai lwydni 'r dref, ond a guddiai ei hacrwch rhagddi wrth iddi ddringo. Gallai deimlo apêl ei chyfeillion, y bryniau; hiraethai am eu cademid, a'u llon- yddwch i 'w chysuro. Ond fel plentyn yn pwdi, gwrthododd ddyrchafu ei llygaid iddynt, namyn ymlwybro ymlaen heibio'r tyddyn bach a'i bentwr prin o fedw-ymlaen ac i fyny a throi'r gornel i'w hoff lecyn. Yn hollol beiriannol ac eto fel pe bai rhywbeth yn ei thynnu, safodd. Syllodd yn hir i fyny ar y ceunant serth ar y gornant fach a neidiai ac a ddawnsiai i lawr y llethr nes ymgolli yn rhaeadr ar ôl rhaeadr, i'r ffrwd afiach a'i galwai ei hun yn afon, yn y cwm islaw. Safodd yno, yn gwylio'r niwl yn chwyldroi o amgylch ygrib, a'i henaid yn suddo i'r distawrwydd a wnâi fiwsig y gornant yn fwy llethol. Ac fel yr edrychai, codai peth o'r trymder o'i chalon fel y codai'r niwl yn awr. Ochneidiodd, trôdd i ffwrdd ac aeth ymlaen. Cerddai'n sythach, daliai ei phen yn uwch. Yr oedd y glaw yn pallu-ymddangosai'r haul fel pe tae'n ennill ei ymryson â'r niwl. Dawnsiai rhaeadrau bach dros y creigiau, a'r gwynt yn eu chwythu fel llenni priodas wedi ei britho â diamwntau aneirif. Oedd, yr oedd harddwch yn y byd, hydyn oed yn y lle hagr hwn, a daliai i effeithio arni Byddai hwn yma bob amser-cyhyd ag y gallai ei llygaid weled. Gallai fyw ei bywyd dirgel hi ei hun ar wahân i'r ysgol ;-gallai drysori ei phrofiadau melys, ei gweledigaethau a'u trosglwyddo i'r merched. Yr oedd popeth yn iawn. Plannodd ei thraed yn gadarn ar y ffordd, anadlodd bersawr arbennig y mynyddoedd ac ymlawenhau yn harddwch eu llinellau, fel yr ymdeithient yn lleng ar 81 lleng i lawr hyd at lesni'r môr ar y gorwel draw. I fyny yno — ar ei phen ei hun ynghanol y mynyddoedd, breuddwydiodd unwaith eto ei hen freuddwydion, teimlodd lawer o'i hen frwdfrydedd. Yr oedd eto'n ifanc, yn awyddus i fyw a'i llygaid yn glir. Yn ysgafn, camodd i lawr heibio i'r gornant, a'r tyddyn bach a'r dafarn lle y pwysai'r dynion diwaith yn rhes ar y mur, a'u poer yn ddafnau disglair ar y palmant-i fyny'r allt, heibio i'r eglwys, i mewn i'w llety. Daethai'r post ac ni ddaeth llythyr oddi wrth Jim. Daliai'r diferion i ddisgyn yn llaith o garreg y ffenestr: a dyna'r gôd lyfrau yn ei disgwyl. Tynnodd ei chôt a'i het, eisteddodd wrth y bwrdd, dech- reuoddar ygwaith. Curodd Mrs. Jones ar y drws a daeth i mewn. "O'n i'n meddwl rhoi ticyn o lo ar y tân cyn mynd mâs" meddai, a chlirio'r llwch llwydwyn o waelod y lle tân. "Wy'n mynd lawr sha'r doctor i weld os ôs rwpeth i gâl 'da fe at y peswch 'ma." "Dyna fe" oedd yr ateb, "ewch cyn iddi dwllu, mae'n noson hyfryd." ANN M. JONES.