Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sir. Cychwynnodd ar y gwaith gan gredu'n gadarn y gallai hi, Luned Tomos, newid pethau er gwell-gwneud' ysgol yn wynfyd a gwaith ysgol yn bleser. Gwelodd maint ei thasg ar unwaith. Rhoddodd ei meistres gyntaf ben ar ei harbrofion yn ddiymdroi, a phwyntio bys awdurdod at gynllun yr arholiadau. Pentyrrai ei chydweithwyr wawd ar ei hymdrechion "Arhoswch chi nes byddwch wedi bod yn dysgu cyhyd â mi. Yna gwelwch fel y mae pethau!" oedd cri yr hynaf. Yr oedd dirmyg tawel yr intelligentsia iau, yn anos o lawer i'w ddioddef. Ond eto i gyd daliodd ati, gan ymladd yn ddygn yn erbyn pob gwrthwynebiad a gwneud ei gwersi yn llawenydd o leiaf i 'r merched a addysgai. Siglai arolygwyr bennau doeth arni, ond yr oedd ei phlant yn llwyddo yn yr arholiadau. Ond ceid adegau pan oedd yr ymdrech yn anodd iawn, pan amheuai hyd yn oed gwerth ei delfrydau, ac yn ddiweddar âi ’ rmunudau anobaith hyn yn amlach. Heddiw, buasai'r ysgol yn gâs ganddi ;-osgo mawreddog hunan ddigonol y brifathrawes, sarhâd yrhai ieuaf, siop a grwgnach dibendraw yr hen filwyr. Buasai'r trydydd dosbarth yn dwpach nag arfer, yn gwrthod deall y stori a ddarllenasai iddynt-aethai popeth o chwith. Ni ddaethai llythyr oddi cartref, ac nid ysgrifenasai Jim. Buasai'n gofidio ynghylch Jim yn ddiweddar-ni ddeuai ei lythyron mor aml ac aethai rhywbeth-y peth a'i gwnaethai yn gymaint rhan ohono-allan ohonynt. Tybed a oedd yr ysgol wedi ei diflasu cymaint fel na allai ddiddori Jim yn hwy ? Felly, gorweddai Luned yn ei chadair, yn ymdrybaeddu yn ei phruddglwyf. Daethai Mrs. Jones i mewn i glirio'r llestri te a thwtio'r lle. "Beth sy'n i thrwbli hi ? gofynnai iddi hi ei hun, a chan droi at Luned, "Pa'm na ewch chi mâs am dro bach cyn iddi dwllu ? Nid atebodd Luned ond yn unig feddwl :-Nid wyf am fynd mâs am dro. Nid wyf am ddim byd. Pan na aiff y fenyw allan a'm gadael i'n llonydd? Gorweddai yno yn ddiymadferth. Llygadrytha heb ddiddorbeb ar y pethau cynefin, y dodrefn gnotiog, y bwrdd anferth, a'i liain-ar-ol-te -plush coch, a'r aspidistra ar ei ganol; yr addurniadau tseni a'r gwydrau yn hongian oddi wrthynt fel ia ac yn tincial yn ddistaw pan gyffyrddai rhyw awel â hwy; y ffenestr wedi ei gorchuddio mor barchus, y llenni sidan gweddus, y teulu llonydd ar y mur. Ac yna, gwelodd ei chod lyfrau-y pentwr llyfrau yr oedd yn rhaid iddi eu marcio cyn trannoeth. Trôdd ei phen ymaith, cododd a gwisgodd y got law a hongiai wrth gefn drws. "Fe gan' aros, unrhyw beth ond hyn" ebe hi, a chan agor y drws aeth allan. Heb drafferthu edrych lle y cerddai, â'i phruddglwyf yn amdo iddi, cyfeiriodd ei thraed amharod, blin, tua ffordd y mynydd.