Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. 387 iaeth a phethau ereill. (26700—2. 25782. 25703—5). Bedydd rhai mewn oed trwy eu trochi, wedi gwneuthur o honynt gyffes o'u ffydd, yw egwyddor wahaniaethol yr enwad hwn (25788); er nad yw y Bedyddwjr Rhydd yn gorfodi cydymffurfio â'r dull hwn o fedyddio fel amod derbyn- iad i Swper yr Arglwydd, fel ag y gwna y Bedyddwyr Caeth. (26699— 707. 25978—80). Dywedodd yr un tyst am y Bedyddwyr Cymreig :— ' Yr wyf yn credu fod eu golygiadau, fel corff, yn ymarferol yr un heddyw ag oeddynt haner can' mlynedd yn ol.' (26964). Dywedodd gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd :— 'Mor bell agy mae a fynoâg Uwch-Galfiniaeth, credaf y canfyddwch fod yr enwad Bedyddiol, yn fynych iawn, yn rhoi mwy o bwys arni nag a roddwn ni fel Trefnyddion Calfinaidd.' (2522). Dywedodd gweinidog Bedyddiol arall fod y Bedyddwyr yn fwy Calfin^ aidd na'r Cynulleidfaolwyr (20864); ond nad ydynt mor nodweddiadol o Galfinaidd ag yr arferent fcd gan' mlynedd yn ol. (20865). ' Yn ddi- ddadl, yr ydym yn cyd-ogwyddo yn fwy tua'r un pwynt. (20875), Gofynid i ymgeiswyr am aelodaeth a oeddynt yn credu mewn bedydd trwy drochi (20765. 25788. 25825); ac nis gall yr un eglwys nad yw yn ymlynu wrth yr athrawiaeth wahaniaethol hon berthyn i Undeb Bedyddwyr Cymru. (20782—4. 25894—7. 26784—5). Dodir yr athrawiaeth hon i fewn yn y Weithred Dir a gymeradwyir fel cynllun i'r capeli Bedyddiol. (20788. 26906). Y DDYSG ANENWADOL. Cydplygai tystion yn cynrychioli y pedwar enwad mwyaf yn Nghymru mai yr un o ran eu sylwedd yw yr athrawiaethau a bregethir ganddynt oll, ac eithrio y pwnc o fedyddio rhai mewn oed trwy eu trochi. Dyma oedd barn Ysgrifenydd Cymanfa Gyffredinol y Trefnyddion Calfinaidd (23638). Gweinidog arall yn perthyn i'r uu Cyfundeb a ddywedodd, ' Fel ag yr wyf fi yn ddeall Cynulleidfaoliaeth Gymreig, mae eu hathrawiaethau yr un yn gywir a'r eiddom ninau' (14010—16980—1). Gweinidog Wesleyaidd a ddywedodd, ' Bhaid i mi ddweyd o barthed i'r athrawiaeth nas gallaf ganfod nemawr o wahaniaeth rhwng yr athrawiaethau a bregethir heddyw yn y naill gapel a'r llall' (27376). Gwr lleyg gyda'r Cynulleidfäolwyr a ddywedodd, ' Yr un yw yr athrawiaeth yn mhob enwad, ac eithrio y Bedydd- wyr—y rhai a gredant mewn bedydd ' (29088). Dywedodd tystion eraill yn cynrychioli y Cynulleidfaolwyr yr un peth (7399—403, 11800—4, 11950—6, 872, 15937—47). Penaeth Coleg Bedyddiol, mewn atebiad i'r cwestiwn, A oedd unrhyw bwnc heblaw bedydd yn yr hwn y gwahaniaethai y Bedyddwyr mewn athrawiaeth oddi wrth y Trefnyddion Calfinaidd, a dywedodd, 'Nid wyf yn meddwl, a siarad yn gyffredinol, fod un pwnc hanfod- ol. Yr wyf yn njeddwl y perthyn ein düwiriyddiaeth i'r eglwysi yn. ddiwahaniaeth'(26710). %godd Bedyddiwr arall dystiolaeth gyffelyb (1193).