Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1894.1 HỲN A'R LLALL. 247 BEDD-GOLOFN Y PAROH. W. HARRISON, NEWBÜRG, OHIO. Yn Nghymanfa Youngstown, Awst, 1889, Penderfynwyd ein bod fel Cymanfa yn gosod cofgolofn ar fedd y Parcb. William Harrison fel arwydd o barch tuag ato am ei ffyddlondeb o íewn cylch y Gymanfa, ao awgrymwyd iddi fod yn werth taa $200. Ac er mwyn gwneyd hvny mor fuan ag oedd bosibl, enwyd pedwar o frodyr o Newburg ac un o Lake Shore yn bwyllgor fel y gall- asent ysgrifenu at y gwahanol eglwysi, a derbyn eu cyfraniadau, &c, yr hyn a wnaed gan ysgrifenydd y pwyllgor, sef Mr. John T. Lloyd, a chyfranwyd ati gan y rhan fwyaf o'r eglwysi. Ond cyn bod yr ysgrifenydd yn cael hamdden i roddi cyfrif o'i oruchwyl- iaeth, y mae yntau wedi myned i orphwys oddiwrth ei lafur i'r un man a Mr. Harrison yn Haward Grove Semitary, fel y mae yn rhaid i ni wneyd hynyn ei le ef. Y mae yn dda genym hysbysu fod y gof- golofn wedi ei gosod i fyny oddiar Chwefror 13, 1894, ac erbyn hyn yr ydym wedi talu am dani $200. Y mae yn ddrwg genym na buasai i fyny rai blynyddau cyn hyn, ond aros yr oeddem wrth yr eglwysi oedd heb gyfranu, gan eu bod wedi cael gair oddi- wrth yr ysgrifenydd, hyd nes i'r panic ddod; yna barnasom y byddai yn well i ni wneyd y gweddill i fyny rhyngom a'n gilydd yn Newburg a Lake Shore nag aros yn hwy, na chwaith fyned oddiamgylch i'w casglu, ac ni fynai Mrs. Harrison i ni wneuthur hyny ar un cyfrif. o herwydd i rai o'r chwiorydd fyned oddiamgylch i gasglu iâdì hi a'r teulu yn fuan ar ol claddu Mr. Harrison, a chaf- wyd, rhwng Newburg a Lake Shore, dros $400. Ac yr oedd hi a'r plant yn ddiolchgar iawn am danynt, ac y maent yn dymuno cyflwyno eu diolchgarwch gwresocaf i'r eg- lwysi sydd wedi cyfranu at y gofgolofn, yr hon sydd yn gerfiedig arni: "Erected by the Welsh Methodist Asso- ciation of Ohio as a token of tüeir aflections for him for preaching the gospel in its sim- plicity for 25 years, so they can say, ' Well done, good and faithful servant.' " Y mae wedi ei gwneyd o Red Scotch Gra- nite, ac y mae yn agos i 12 troedfedd o uch- der, ac yn rhedeg o 2| wrth 2| troedfedd yn y sylfaen (base) i 1 wrth 1 troedfedd yn y penfain (spire). Aderbyniwyd ati oddiwrth y gwahanol eglwysi fel y canlyn: Pittsburg, Pa................$5 50 Ebensburg, " ................12 00 Gogl'ddEbensburg" ................ 4 75 Mr. H. Williams, Indiana, Pa........1 00 Niles, Ohio................ 1 50 Shawnee, " ...............2 45 Church Hill, " ................ 3 20 Newark, «« ___............ 5 95 Palmyra, " ................ 6 15 Weathersfield, " ................ 7 75 Cincinnati, " ................10 00 Alliance, " ................13 75 Columbus, Ohio................14 00 Youngstown, " ................15 75 Lake Shore, Cleveland, Ohio..........30 00 Newburg, Ohio......................66 25 Cyfanswm..................$200 00 Arwyddwyd dros y pwyllgor, James Thomas, Newburg, Lewis D. Williams, " Thomas M. Jones, " Edward Evans, " John T. Lloyd, Lake Shore, gan James Thomas, 2522 Reade Street, Newburg, Cleveland, O. FFYDD FY MAM. Mr. Gol.—Nis gallaf lai na thosturio wrth y dyn hwnw nas gallodd yn ystod ei oes ganfod rhyw rinwedd yn ei fam; ond os na bydd ganddo rhyw air caredig i'w ddweyd am dani, doethineb ynddo fyddai peidio ei chyflwyno i'r cyhoedd. , Credwyf fod gor- mod a anwyldeb hyd yn nod yn yr enwmam i'w gysylltu gydag anfri. Mae proflad wedi fy nysgu fod y fath beth yn bosibl ag i ddyn allu canfod mwy o rin- weddau ei fam yn mhen blynyddoedd ar ol iddi adael yr hen fyd yma, nag a ganfydd- odd tra yn byw, symud, a bod yn ei phres- enoldeb. Darllenais lawer o dro i dro am "ffydd," a chlywais lawer o bregetbu ar y gair, ac o siarad a dadleu (fel y mae gwaethaf modd) mewn ysgolion Sul yn Nghymru, er's talm, parthed gwahaool fathau o ffydd, &c. Ond mae un frawddeg syml o eiddo fy mam pan ar ei gwely angau, wedi bod yn foddion i daflu mwy o oleuni i mi ar wir ystyr "ffydd" na'r cyfan gyda'u gilydd. Ychydig cyn ei marwolaeth pellebrwyd ataf i un o drefydd Lloegr, ac aethym gartref yn ebrwydd. Er ei bod wedi dyoddef cystudd maith, yr oedd ei meddwl a'i lleferydd bron mor berffaith a phan yn ei ohyflawn iechyd. Er hyny, yr oedd yn ymwybodol o'r ffaith fod y diw- edd yn agos. Yn ei gofal am fy nghroesaw, fel y byddai yn arf'er gwneyd ar fy nychwel- iad gartref o bob man, gofynodd ifychwaer a oedd hi wedi darparu pob peth erbyn y Sul, ar gyfer ciniaw. "Ond raid i ti ofalu am ddim ar fy nghyfer i (meddai), yr wyf yn dysgwyl y byddaf gyda Iesu Grist cyn hyny." Er nas gwelais ddim neillduol yn y geir- iau y pryd hyny, amgen na'u bod yn cyfleu y syniad ei bod yn myned i farw, a'i bod fel maler of course, yn dysgwyl cael myned i'r nefoedd, nis gallaf yn awr gymaint ag ed- rych ar ei darlun heb ganfod symlrwydd ei ffydd megys yn argraffedig ar ei gwyneb- pryd. Mae yn wir fod ynddo amlygiad eg- lur o henaint a thrallod, ond i mi ymddeng- ys pob crybychiad fel pe wedi ei addurno gyda rhyw ddiniweidrwydd a symlrwydd plentynaidd, fel y bydd swm a sylwedd y geiriau hyny yn cael eu gwneyd yn fwy