Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYMRAES. Ctf. II.] CHWEFROR, 1851. [Rhif. 2. TRAETHODAU I DADAU, A MAMAU, A PHLANT. GAN Y CYMRO BACH. HANES Y MAB AFRADLON. (yr ail ran.) Cyn y rhoddaf hanes y bachgen hwn yn yr ysgol, tri neu bedwar o bethau a deilyngant ein sylw. (1.) Gwaith ei riaintyn bygwth yr ysgol arno bob amser pan y gwnelai ryw beth o le—ac nid oedd amgylchiad o'r fath hyny yn ddyeithr yn y teulu. Nid anaml y byddai Zachy bach heb wneuthur pethau o le. Yna dywedent y"n nnion y celai fyned i'r ysgol: ac fel hyn dysgwyd y llanc bach i feddwlmai lle ofnadwy oedd yn yr ysgol, gan eu bod yn bygwth y fathle arno fel cosb am ei ddrygioni. Ffolineb wedi blodeuo yw bygwth yr ysgol ar y plant. Oni fyddai yn well dywedyd na fyddai iddynt gael y fraint o fyned yno, os na byddant yn blant da, neu addo yr hyfrydwch paradwysaidd o fyned i'r ysgol os byddant yn blant da ? (2.) Ei nain, a'i ddwy fodryb, a ofalent bob amser i'w gadw rhag pob cerydd. Os gallent, cuddient ei holl ddrygau oddiwrth ei dad} ond pan fethent a chnddio ei feiau, byddent yu sicr o arbed y gosb mewn rhyw fodd neu gilydd. Gwelwyd yr effaith o hyn yn fuan ar ymddygiad y bachgen—caledodd dan bob bygythiad, oblegid gwyddai yn ddigon da na chelai y wialen ddisgyn arno f! Ah! ychydig a feddylir am y niweid a wneir i'r rhai bychain wrth guddio eu holl feiau, a'u cadw rhag pob cerydd. (3.) Ei fam ac yn neillduol ei nain a'i fodryboedd, a fyddentyn ddyfal iawn bob dydd yn ei ddysgu fod ystââ yn dyfod iddo pan y deuai yn un ar ugain oed. Nid bychan y drwg oedd hyn yn ei wneuthur iddo—ei feddwl a lanwyd a balchder; edrychai ar blant ereül fel pethau distadl, yn mhell islaw iddo ef; ac ni allai feddwl fod yn rhaid iddo ef fyned dan yr un ddysgyblaetb,neudrwy yr nn oruchwyliaeth a phlant y cymydogion, oblegid yr oedd efe, Syr, yn etifeûd, er nad efe oedd y mab hynaf; eto yr oedd ystâd ei fam yn ddyfod iddo. Nid Zachy yn unig a ddinystriwyd wrth y pethau uchod. Efallai y bydd ambell i dad, ac ambell i fam, wrth ddarllen y llinellau hyn, yn galw rhai pethau gofidusi gof; a mihyderaf y bydd rhyw itn bychán yma neurhyw un bychan acw, yn mwynhau y fantais o gael gwybod hanes y Mab afradlon. -