Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

í TRAETHODYDD. Y PARCH. H. C. POWELL AR EENOSIS AC ÜNDOÜ PERSONOL Y DÜW-DDYN. Y mae y Parch. H C. Powelì, M.A., yn y flwyddyn 1896, wedi cyhoeddi llyfr rhagorol yn yr iaith Saesneg, o dan y penawd The Principle of the Incamation* Mae y llyfr wedi cael derbyniad lled ffafrioî gan lawer o dduwinyddion dysgedig a meddylgar, a derbynia ganmoliaeth uchel iawn gan rai. Diatneu ei fod yn un o'r llyfrau goreu, ar lawer cyfrif, a gyhoeddwyd y blynyddoedd diweddaf ar bwnc yr Ymgnawdoliad. Dengys yr awdwr ysbryd teg a diduedd yn ei ymchwil egniol i gael gafael aradadlennu y gwirionedd mawr a sylfaenol ynglŷn â ffwf ymddanghosiad yr Ail Berson yn natur dyn. Amcan proffesedig yr awdwr with gyfansoddi ei lyfr oedd gwrthwynebu athrawiaeth Renosis, fel y mae yn cael ei dal gan Gore, Godet, a Delitzsch. Y mae Mr. Powell yn un o dduwinyddion mwyaf iach ac uniongred yr oes bresennol. Y mae yn ddiau yn un o'r rhai mwyaf ceidwadol a berthyn i Eglwys Loegr. Ni chlywir sain anhynod yn holl diriogaeth ei lyfr galluog a dysgedig. Yn yr ystyr hwn y mae ei lyfr yn berffaith wrth fodd ein calon. A theimlem wrth ei ddarllen duedd i ddiolch i'r Nef- oedd am godi dyn o'r fath yn y blynyddoedd hyn ar furiau Seion, er amddiffyn y gwirionedd fel y mae yn cael ei ddysgu yn y Beibl. Wrth ddarlleu ai waith, yr ydis yn gorfod teimlo ein bod yng nghym- deithas gŵr sydd yn meddu teyrngarwch diledryw i wirionedd goruwch- naturiol y Datguddiad Dwyfol, un sydd yn plygu yn ufudd ac isel o flaen ei awdurdod anffaeledig. Yr ydym mewn dwfn gydymdeimlad â'n hawdwr dysgedig yn y gwrthwynebiad cryf a ddengys tuag at athrawiaeth Kenosis ymhob ffurf arni. Dengys ei lyfr ei fod yn llwyr ymwrthod â hi wreiddyn a changen. Ac y niae y llafur enfawr yr aeth iddo yng nghyfansoddiad ei lyfr yn brawf gweledig aralwg o gryfder a llwyredd ei argyhoeddiad o'i hollol amddifadrwydd o bob rhith gwir- ionedd, er fod rhai dynion da a dysgedig yn ei dal mewn rhyw ffurf neu gilydd. Y mae llyfr Mr. Powell, "Egwyddor yr Ymgnawdoliad," yn cael ei ddosbarthu i dair adran, neu dri llyfr. Yn y llyfr cyntaf, gwrthwyneba Kenosis oddiar y safbwynt Enaidegol. Yn yr ail lyfr, gwrthwyneba Kenosis oddiar y safbwynt Duwinyddol, trwy ddangos nad oes nemawr ddim yn nuwinyddiaeth y deunaw cant cyntaf yn hanes yr Eglwys yn ffafriol iddi, ond yn anffafriol. Ac yn y trydydd llyfr, y mae yn gwrth- wynebu Kenosis oddiar safbwynt yr Efengylau, lle y dengys nad oes dim * Tko Principle of the Incarnation. Lougmans & Co. 26