Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y SER: YMCHWILIADAÜ DB, ISAAC ROBERTS. A Selection of PJiotographs of Stars, Star-Clusters and Nebulce, together with information cmceraing the Instrtiments and the Methods employed in thepursuitof Gelestial PJiotograpJuj. By Isaac Roberts, D Sc, F.B.S., éc, éc. Cyn gwneyd sylwadau ar gynnwys y llyfr dyddorol uchod o eiddo ein cydwladwr enwog, Dr. Isaac Roberts, yr ydym yn awyddus i gydio yr ysgrif hon ág ysgrifau ereill o'r eiddom ar " Yr Ysbienddrych a'i Ddarganfyddiadau," y rhai a ymddangosasant yn y Traethodydd flynyddau yn ol. Mae y ddolen gydiol yn un hir, yr ydym yn addef, ac y mae yn bur debyg nad oes ond ychydig o'r darlleuwyr presennol yn cofio yr ysgrifau hynny. Pa fodd bynnag, os troir i'r cyfrolau am 1872, 1882, 1883 ac 1888, yr ydym yn meddwl y ceir ein bod wedi ysgrifennu tua saith neu wjrth o erthyglau ar y testyn a nodwyd. Olrheiniwyd hanes yr ysbienddrych, ei wneuthuriad, y gwahanol fathau o ysbienddrycb.au, a manteision ac anfanteision y naill fath a'r lla.ll. Wedi hynny, cymerasom olwg ar y darganfyddiadau a wnaed am faint, pellter, a natur yr haul, y lloer, a'r planedau. Ceisiasom arwain y darllenydd i gwr pellat y gyfuudrefu heulog, hyd y mae ỳn wybyddus i ni, sef hyd at y blaned Neptune, yr hon sydd yn t'roio gwmpas yr haul mewn cylchlwybr ag y mae ei drawsfesur yn fwy na phum mil o filiynau o filltiroedd ; ac er ei bod yn teithio yn y cylchlwybr hwnnw yn ol 3| o filltiroedd bob eiliad, y mae yn cymeryd 164 ac ycbwaneg o flynyddoedd i roddi un tro o gwmpas yr haul. Dywedasom, os ydym yn cofio yn iawn, y buasai cerbyd, yn teithio yn ol 40 milltir bob awr, yn cymeryd 7919 o flynyddau i groesi y ffordd o'r haul hyd at gylch- lwybr y blaned Neptune. Gwyddom nad yw y ffigyrau hyn yn cyfleu ond syniad egwan iawn am y pellter anferth hwn. Mae goleuni yn teithio yn ol tua 186,000 o filltiroedd mewn un eiliad, ac eto cymerai bedair awr i deithio o'r blaned Neptune hyd at ein daear ni. Ond er mor ryfeddol o bell y mae y blaned hon oddiwrth yr haul, ac oddiwrthym uinnau o ran hynny, nid ydyw ond megis dim i'r pellter annirnadwy sydd rhyngom ni â'r ser sydd yn pefrio bob nos yn y ffurfafen o'n cwmpas. Gallesid meddwl, wedi i ni fod yn yr Express Train am yn agos i wyth mil o flynyddoedd yn teithio yng nghyfeiriad yser, y buasem wedi gweled cyfnewidiad amlwg yn eu hymddanghosiad ; 16