Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRÀETHODYDD. SEFYLLFA BRBSENNOL DAMCANIAETH DAD- BLYGIAD. Y MAE y ddamcaniaeth ddadblygiadol wedi bod yn sefyll ei phrawf yn llys barn yr oes hon, nid i'w chondemnio, eithr i'w phrofi. Arfer- wyd pob diwydrwydd i gasglu tystion o'i phlaid yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod, ac yn y dwfr tan y ddaear. Archwiliwyd gwaelodion y moroedd ; aflonyddwyd ar ymerodraeth ddieithr y tan- ddaearolion bethau ; agorwyd hen feddau y bywyd a gladdwyd ym rnynwes y ddaear yn y cyfnodau daearegol, a dygwyd eu cyrff, eu pennau, eu hesgyrn, ôl eu traed, a'u heirch i'r llys. Holwyd hwy yn fanwl ger bron barnwyr, rhai yn bleidiol, a'r lleill yn amhleidiol. Llef- arwyd yn fynych am ddadblygiad fel gwyddoreg, ac fel uu o'r dargan- fyddiadau mwyaf a wnaed yn hanes y byd. A yw hi yn rhy gynnar i ofyn y cwestiwn, Pa beth yw ei thynged erbyn hyn ? A yw hi wedi dal ei phrawf ? Wrth ateb y cwestiynau hyn nid wyf yn meddwl rhoddi fy marn fy hun ar y pwnc, ond yn hytrach casglu tystiolaethau y prif ymchwilwyr yn yr holl feusydd ag y mae y ddamcaniaeth ddad- blygiadol yn dal cysyìltiad nniongyrchol â hwy. Cyn i ni ddwyn ymlaen dystiolaeth ffeithiau naturiol â phersonau ar y pwnc, byddai yn fanteisiol feallai sylwi ar y gwahaniaeth sydd rhwng damcaniaeth a gwyddoreg. I. Damcaniaeth a Gwyddoreg. Pa beth a olygir wrth ddamcaniaeth ? Tybiaeth ydywa fabwysiedir gan yr ymchwilydd pan yn profi ac yn dosbarthu ffeithiau, a'u cymharu â'u gilydd ; neu " oleuni ymchwiliadol gwirionedd," fel y dywed rhyw un. Damcaniaeth ydyw pob tybiaeth mewn gwyddoreg, athroniaeth, a duwinyddiaeth, hyd nes y profer hwy yn ddiamheuol. Nid oes dim yn fwy naturiol nac yn fwy rhesymol na thybiaeth weithiol. Pan y dywed y fam, wrth siglo y cryd, " Yr wyf yn tybied ;'' neu pan y dywed y celfyddwr, wrth drin ei arfau, "Tybiwch fel hyn," y mae y naill a'r lla.Il yn damcanu mor wirioneddol ag yr oedd Laplace pan y fiurfiai ei syniad am ffurfiad y bydoedd, neu Darwiu, pan y ceisiai brofi y ddamcaniaeth ddadblygiadol. Yi un pryd, nid oes yr un gwyddon- ydd yn llefaru am ddamcaniaeth fel gwyddoreg hyd nes y profir hi. Nid yw y ffaith, sylwer, fod damcaniaeth heb ei phrofi â fteithiau/ 11