Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD, UNOLIAETH DYSGEIDIAETH. Anerchiad ar derfyn Tymor 1890—91, yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. ÖAN 8. H. BUTCHEE, LL.D., PEOFFESWE GEOEG Til MHELFYSGOL EDINBUEGH. Mae rhai o honoch, ìnae'n ddiarneu, yn cofio y rhan yn y " Vicar of Wakefield" lle y mae Prifathraw Prifysgol Louyain yn gwneyd y sylwadau hyn : " Yr ydych yn fy ngweld i, wr ieuanc, ni ddysgais erioed Roeg, ac nid wyf yn cael i mi erioed deimlo ei heisieu. Mi gef ais gap a gŵn doctor heb Roeg. Mae gennyf 10,000 o fiorins yn y flwyddyn heb Boeg, ac mewn gair," ychwanegai, " fel nad wyf yn deall Groeg, nid wyf yn credu fod dim lles ynddi." Yn awr, nid wyf am ofyn i chwi ym mhresenoldeb fy nghyfaill, eich Prifathraw, yinddadleu pa un a ydyw proffeswr yn rhwym o wybod rhywbeth o'i destun ei hun, neu pa un a gafodd neb erioed unrhyw les o Poeg. Ond mae'n ddiameu fod y geiriau wyf newydd ddyfynnu yn dangos yr agwedd meddwl â pha un y mae addysg Athrofäol eto yn lled gyffredin yn cael edrych arni. Pe gofynech i ddinesydd cyffredin, na ddarfu iddo erioed dalu sylw neillduol i'r peth, beth a ddysgir mewn Colegau ac Athrofeydd, mae'n debyg yr atebai, " Dysgeidiaeth ddifûdd." Ac ni fyddai byny, feallai, gynddrwg ateb wedi'r cyfan. Mewn ystyr benodol gallem hyd yn oed ei f abwysiadu ein hunain, a'i hawlio fel rhagoriaeth mai ychydig os dim buddiol a ddysgir yn ein hathrofeydd. Nid eu hamcan ydyw troi allan feddygon, clerigwyr, cyfreithwyr, a masnachwyr, ond dynion—ac yn awr merched hefyd—gyda meddyliau wedi eu trwyadl hyfforddi, meddyliau wedi eu cryfhau a'u hëangu trwy wahanol efrydiau, ac wedi eu cymhwyso, nid at y broffeswriaeth hon neu arall, ond at waith bywyd. Dysgu pobl pa fodd i feddwl ydyw feallai ddiben uchaf addysgiaeth, a dysgu meddwl ydyw y peth anbawddaf y gelwir dyn byth i'w wneyd. Y mae cymdeithas werinaidd yn dueddol i wneyd ei gwaith o feddwl trwy ereill, os caniateir iddi yn unig i wneyd ei phleidleisiaeth yn bersonol. Y mae mor hawdd meddwl yn finteioedd, trwy bwyllgorau ac is-bwyllgorau a threfniadau pleidiol. Ymarfer y gallu meddyliol er ei fwyn ei hun ydyw prif amcan efrydiau athrofäol. Llethwch feddwl, a chwi a ellwch lethu rhyddid ei hunan. Y mae Voltaire, mewn papur ar "YPerygl dychrynllyd o Ddarllen," yn dychmygu rheith-archiad o'r Sublime Porte yn condemnio, yn gwahardd, ac yn gosod dan anathema y ddyfais uffernol o argraffu, ac am resymau sydd yn cael eu nodi. " Am y rhesymau hyn ac ereill," ychwanega y rheith-archiad, " er adeiladaeth y ffyddloniaid ac er lles eu heneidiau, yr ydym j\\ gwahardd iddynt byth ddarllen llyfr o dan boen damnedigaeth dragwyddol. . . . Ac er atal unrhyw doriad ar ein hordeiniad, yr ydym yn bendant yn gwahardd iddynt feddwl o dan yr un peryglon ; ac yr ydyni yn gwasgu