Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAET'HODYDD EFRYDIAETH LLYSIEUAETH, Mae yn liollol amlwg nad ydyw Llysieuaetli yn gwbl yr un wyddor pan y siaredir am dani gan wahanol bobl. G-yda Uawer y mae yn gyn- wysedig yn unig mewn adnabod gwahanol fathau o blanhigion, a'r llysieuwr goreu ydyw yr hwn a fedr gyda'r parodrwydd mwyaf adnabod y nifer mwyaf o blanhigion. Mae rliai felly yn dangos cryn syndod wrth weled efrydwyr, wedi eu harfogi ag ellyn a chwyddwydr, yn treulio cryn lawer o'u hamser mewn ymchwiliadau o fewn i'r weithfa wyddonol, neu y laboratory. Mae yr amser hwnnw, yn ol eu syniad hwy, yn caeí ei dreulio yn llai ftefnyddiol nag y byddai pe baent yn cyrraedd adna- byddiaeth lawn o holl flodeu yr ardal, neu yn mynnu casgliad cyflawn o blanhigion y gymdogaeth. Mae yr efrydydd a hyfforddir yn y dull diweddar yn cael ei alw gyda dirmyg yn " llysieuydd laboratory" ac fe'i cynghorir i ddyfod yn " llysieuydd y maes," fel efrydwyr cenhedlaeth flaenorol. Mewn gwirionedd y mae, yn ystod y pump neu y deng mlynedd ar hugain diweddaf, chwyldroad distaw wedi cymeryd lle mewn dysgu Llysieuaeth yn y wlad hon. Mae yr hen ragoriaethau mewn llysienydd yn awr yn cael eu hystyricd yn bethau da, ond o bwysigrwydd nad yw ond ailraddol; mae y weithfa wedi cymeryd lle y llysieufa; mae yr hen wers-lyfrau wedi mynd allan o arfer; ac y mae cenhedlaeth newydd o'r rhai a elwir llysieuwyr y laboratory yn ìlanw cadeiriau ein Prifysgolion a'n Oolegau. Mae pobl yn siarad am y Lysieuaeth Newydd. Mae y rhai a ellid alw yn wrth-chwyldroadwyr yn siarad am y cyf- newidiad fel Ellmynyddiad yr ysgolion Seisnig. Mae yn ddiau yn wir fod y rhan fwyaf o lysieuwyr yr ysgol newydd wedi derbyn rhan o'u haddysgiaeth yn y Prifysgolion Germanaidd, ac mai awduron German- aidd a ddarllennir yn bennaf. Yn awr mi gynhygiaf roddi ychydig o hanes y chwyldroad hwn, gan egluro pam y mae yr hen ddulliau o addysgu i raddau mawr wedi eu gadael o'r neilldu, a dangos pam yr ystyrid nad oedd y Uysieuydd a ym- roddai yn unig i wahaniacthu rhwng mathau ac amrywion, a sychu a threfnu planhigion, beth bynnag aÚai fod ei ragoriacthau yn hynny, yn feddiannol ond ar adnabyddiaeth amherffaith ac unochrog o'i fater. Pydd yn ddyddorol sylwi hefyd fod y chwyldroad hwn, fel rhai ereill, wedi cael ei ddilyn gan wrthweithiad, ac cr fod yn debyg nafydd i waith yn y maes byth eto gymeryd y lle mawr a gymerai gynt yn addysgiaeth llysieuydd, eto rhaid talu mwy o sylw iddo nag a wnaed yn ddiweddar. Mae y pendyl wedi mynd i'w eithaf mewn un cyfeiriad, ac y mae y symudiad gwrth^ferbyniol eto wedi dechreu. Fe ddeallir y cj^f- newidiad hwn yn well pan fydd hanes y wyddor yn wj^byddus, ac mi rof yn awr amlinelliad brysiog o gynnydd graddol gwybodaeth lysieuol nes y deuwn at y cyfnewidiadau yn' ein hamser ni at ba rai y cyfeiriais.