Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. AR OL MARW. YMCHWILIAD. I'r cwestiwn hwn, fel i bob cwestiwn arall, y mae dau eithaf gwrth- gyferbyniol. Gwelir yr eithaf cyntaf yn yr atebiad a roddir gan y rhai ag y mae eu parch i'r Bibl yn gymesur â'u cred mewn ysbrydol- iaeth eiriol. Boddlonant hwy ar yr atebiad syml a roddir gan Solomon, heb gofio fod y geiriau hyny yn ateb y cwestiwn mewn dwy wedd. Y geiriau ydynt, " A'r ysbryd at Dduw yr Hwn a'i rhoes." Gyda phob parch i'r meddyliau syml hyn, dymunem adgofio iddynt fod crediniaeth yn ysbrydoliaeth eiriol y Bibl wedi bod o gymaint magwraeth i fater- olaeth ag i ddiogi meddyliol. 'Onid un o eiriau mawr, cyffredinol y Bibl, ydyw yr uchod, yn cael ei ddefnyddio i ddysgu tywyllwch ? Solomon sydd yn ei ddefnyddio, a chawn ganddo ddau wirionedd arall llawn mor eang: " Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctyd;" " Yna y dychwel y pridd i'r ddaear fel y bu." Yr agoriad, fel y credwn, i ddeall yr ymadroddion, " pridd i'r ddaear " a'r " ysbryd at Dduw," a geir yn y geiriau, " fel y bu." Wrth orphen gyrfa bywyd, mae dyn yn dychwelyd i'r un sefyllfa ag yr ydoedd cyn ei greadigaeth. Yn ol dim a ddywed yr adnod, fe all fod hyny yn ddihanfodiad. Dysgeidiaeth Cymru i'w phlant ydyw, mai " o ddim " y gwnaed corff dyn ar y cyntaf. Cymhwyser y ddysgeidiaeth hon at eiriau Solomon, dyna ydyw,—pan yn marw bydd y corff yn dychwelyd i ddim, neu y mae yn peidio a bod. Os ydyw hyn yn gywir gyda'r rhan hon o'r adnod, y mae yr un egwyddor o esboniadaeth i'w chy- mhwyso at yr ail ran. Ymgolla yr enaid yn Nuw, fel y mae y corff yn ymgolli yn y pridd, gyda'r unig wahaniaeth fod y corfí a'r ysbryd yn dyfod dan ddeddfau gwahanol. " At Dduw," ymha le 1 Beth y mae genedigaeth yn ei ddyweyd am dano 1 I'r fath dywyllwch a materol- aeth y'n harweinir ! Onid mwy cydfynedol â rheswm ydyw credu mai cadarnhad cyffredinol ydyw y geiriau "at Dduw," i'r gosodiad cyffred- inol yn nechreu y bennod, " Cofia dy Greawdwr." Nid oes dim afyno y geiriau a mynegu i ba le yr ä yr ysbryd. Yr idea ydyw cysylltiad a dibyniad creadur ar ei Greawdwr, ynghyd a chyfrifoldeb y dibyniad hwnw. 1889. 2 h