Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRÀETHODYDD. DYDDLYFBAU EBEN FARDD. ii. Yn y Traethodydd am Ionawr diweddaf cyhoeddasom nifer o ddetholion a wnelsai cyfaill enwog a dysgedig o Ddyddlyfrau Eben Fardd am y blynyddoedd o 1845 i 1859. Yn awr, trwy garedigrwydd Myrddin Fardd, yr ydym wedi cael cyfleusdra i weled yr oll sydd ar gael o'r Dyddlyfrau a gedwid gan y Bai dd o Glynnog. Nid ydym yn synu fod ein darllenwyr wedi mwynhau yn gymaint y detholion a gyhoeddasom o'r blaen, ac nid oes ammheuaeth na fwynhant yn gyffelyb y dyfyniadau yr ydym yn awr yn cael yr hyfrydwch o osod ger eu bron yn ychwanegol. Mae yn ymddangos ei fod ef, ac i fesur mae yn debyg o ddiffyg cymdeithas gydnaws, fel yn gwneyd cyd- ymaith mynwesol o'i Ddyddlyfr, ac yn ymddiried iddo ei holl gyfrin- ach. Yr oedd yn gwneyd hyny am lawer o bethau tra dibwys; rhoddwn ychydig engreifftiau o'r pethau hyny, y rhai ydynt ddyddoroí yn unig o herwydd eu cysylltiad âg ef, ac am y goleuni a daflant ar y symledd gonest, y cydwybodolrwydd, a'r ysbryd anrhydeddus oedd mor amlwg yn ei nodweddu. Am y gweddill, fe welir fod yr olwg a geir trwyddynt ar hanes ei feddwl a helynt ei einioes lafurus, ynghyd a'r personau a'r amgylchiadau yn hanes ein gwlad ag y deuai efe i gyffyrddiad â hwynt, yn eu gwneyd yn hynod o ddyddorol. Ysgrifenai y cwbl bron, fel y nodasom o'r blaen, yn yr iaith Saesoneg, a gwnai hyny gyda llawer o rwyddineb a meistrolaeth. Ond yr ydym yn gosod ein detholion ger bron darllenwyr y Traethodydd yn Gymraeg. 1802. Ganwyd fi yn mis Awst, a bedyddiwyd fi y 29ain o'r un mis. 1808. Mai, Mehefin, a Gorphenaf, myned i'r Ysgol yn Eglwys Llanarmon, o dan Richard Price ei hathraw; y pryd hyny yr oeddwn yn bump oed. Yr wyf yn cofio cael fy ngheryddu yn greulawn, a chael fy nghau fy hunan yn yr Eglwys, tra y codai y meistr mewn gwenwisg yn y pulpud, ar ddull ysbryd, i fy nychrynu. Ac ni oddefid i mi fyned allan wrth anghenrhaid natur, ond gorfodid fi i yfed fy nwr fy hun ! Dechreu Ysgol Sul mewn Ysgubor, o'r Twll du.—Y flwyddyn hon fy nrygioni yn ymddangos, ond yn gymysg â rhinwedd, gweddîo, a pharohu y Sabboth. 1888. b