Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. CREAD-DDYSG MOSES A GWYDDONIAETH. Gellir casglu wrth ddarllen gweithiau rhai o brif wyddonwyr yr oes fod eu llafur gwyddonol wedi ymuno mewn priodas, er gwell ac er gwaeth, â'u hawydd i ddymchwelyd Orefydd Ddadguddiedig. Yn eu golwg hwy, " pentwr o ysbwrial ofergoelus" ydyw duwinyddiaeth Gristionogol; a chyfrifant fod gwrthwynebu y cyfryw gyfeiliornad yn anrhydedd cyfartal i ddarganfod gwirionedd newydd. Tra y mae y duwinydd yn estyn ei ddwylaw yn brysur i dderbyn yn galonog ffrwj^th ymchwiliad y gwyddonydd a'r uchanianydd yn nheyrnas mater a meddwl, ceir rhai ymhob un o'r canghenau hyn yn llefaru yn ymosodol, yn ddirmygus, ac yn fygythiol, yn erbyn Duwinyddiaeth a Chrefydd Ddadguddiedig. " Os ymaflwn mewn cyfrol ar dduwinyddiaeth, neu ysgol o uchanianwyr," medd Huxley, "gofynwn, A ydyw yn cynnwys ymresymiad dansoddol ar rif a mesur ì Nac ydyw. A ydyw yn cyn- nwys ymresymiad arbrawfiadol ar bwnc o ffaith a bodolaeth 1 Nac ydyw. Llosger ef, o herwydd nis gall gynnwys dim ond gau ddadleu- aeth neu dwyll." Dywed ymhellach: "I'm tyb i, un o ragoriaethau penaf yr athrawiaeth o ddadblygiad ydyw y ffaith ei bod yn wrth- wynebydd cyflawn ac anghymmodol i'r gelyn cryf a sefydlog hwnw i fywyd deallol, moesol, a chymdeithasol uchaf dynolryw—yr Eglwys Gatholig." Ceir Darwin hefyd yn llawenhâu yn y syniad fod ei ddam- caniaeth am gynnydd yn y greadigaeth trwy " ddosbarthiad naturiol, pa un ai gwir neu beidio, yn dymchwelyd yn dragywyddol yr athraw- iaeth o greadigaeth neillduol." Y mae yr ymadrodd hwn yn dwyn ar gof i ni ymadrodd un arall o'r un ysbryd, sef yr eiddo J. S. Mill, pan y dywed " Ei fod yn meiddio meddwl y gall crefydd fodoli heb gredin- iaeth yn y bôd o Dduw, ac y gall crefydd heb Dduw fod yn bwnc addysgiadol a buddiol i fyfyrio arno." Yr ydym yn nodi yr ychydig frawddegau uchod, allan o lawer o rai cyffelyb, i ddangos fod rhai o'r gwyddonwyr eu hunain yn gyfrifol am y dadwrdd parhâus a glywir fod " gwrthdarawiad rhwng crefydd a gwyddoniaeth," neu "rhwng duwinyddiaeth a gwyddoniaeth." Ond nis gall gwrthdarawiad fod rhwng crefydd, duwinyddiaeth, & gwyddoniaeth, tra y bydd crefydd a duwinyddiaeth yn gyson â'r 1886. i