Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DARLirHIAÜ Y PAECH. D. CHARLES DAV1ES, M.A., AR GRISTIONOGAETH. AIL GYFRES. II. PERTIIYNAS CRISTIONOGAETH A'r GORUWCHNATURIOL.* Y CWESTIWN cyntaf i'w ofyn yma ydyw, Pa beth a feddylir wrth y goruwchnaturiol ? Defnyddir y gair yn barhaus gan Proffeswr Seeley, ac os oes unrhyw amwysedd ynddo, y mae yn bwysig i'w esbonio cyn myned ymhellach. Pa beth sydd goruwch natur ? Pa beth a fedd- ylir, i ddechreu, wrth natur ? Gan mai â gwyddonwyr y mae a wnelom, pa beth ydy w ei ystyr wyddonol ? Wrth y gair '• natur " y meddylir yr hyn a ganfyddir drwy synwyrau y corff, ynghyd ag olyniad cyson a pharhaus yr hyn a ganfyddir felly. Cynnwysa y darnodiad hwn rhyw gymaint o'r natur ddynol, hyny yw, cynnwysa yr argraffiadau a brofir gan ddyn drwy ei synwyrau, ynghyd a'u cysyllt- iadau â'u gilydd yn gyfamserol ac yn olynol. O fewn y terfynau hyn y mae y natur ddynol yn rhan o '• natur." ond dim pellach. Pa beth, yn ol Cristionogaeth, sydd goruwch natur ? Meddwl mawr digrèedig a thragywyddol, yr hwn a elwir Duw. Caniatäer fod y Meddwl hwnw yn bod, fe welir fod iddo ddwy berthynas â natur. Efe ydyw Achos gwreiddiol yr hyn a ganfyddir drwy y synwyrau, ac Efe ydyw Achos cyntaf y gallu sydd gan y syuwyrau i'w canfod. Y mae iddo hefyd ddwy berthynas â chysylltiadau pethau naturiol a'u gilydd. Efe a sefydlodd y cysylltiad ar y dechreu, ac Efe yw y gallu sydd yn parhâu i weithio ynddo. Yr olaf o'r ddau hyn a anghofir fynychaf, sef fod meddwl Duw yn allu gweithredol mewn cysylltiadau naturiol. Y mae felly ddwy elfen mewn gweithrediad parhaus o'n hamgylch, sef y naturiol yn olyniad pethau, a'r goruwchnaturiol yn y meddwl sydd yn gweithredu yn yr olyniad. Gelwir yr olyniad cyson * Nodiad.—Yn y ddarlith hon oymer y darlithydd parchedijÇ i ystyriaelh olypiadau Proffeswr Seeley ft-1 eu gosodir allan yn ei Natural luligion. Edrychai nr y ddarlith gyntaf (gwel Tkakthodvdd Ebrill, 1885), fel uu ragarweiuiol i'r mater niewn llaw. E. ŶINCENT EVAN3. 1886. a