Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DE. DUPP. Ar y 12fed o Chwefror diweddaf bu farw y gŵr bydenwog hwn, yn Sidmouth, Swydd Devon, lle yr aethai tua diwedd mis Hydref'. Yr oedd ei iechyd wedi bod yn gwaelu er dechreu y flwyddyn ddiweddaf, ac yn y gwanwyn gorchymynodd ei feddyg iddo ymgadw oddiwrth yr amrywiol orchwylion cyhoeddus oedd ganddo mewn llaw. Cafwyd arwyddion y pryd hwnw ei fod yn dyoddef oddiwrth y elwyf melyn (jaundice), ac efe a aeth yn yr haf i Neuenahr, yn Rhenial Prussia, gan ddysgwyl llesâd trwy yfed dyfroedd y lle hwnw. Ymddangosai fel yn gwella am y bythefuos cyntaf, ond gwaethygodd ar ol hyny; dychwelodd i Edinburgh, a chan fod ei anhwyldeb yn parhâu, cynghorwyd ef i dreulio y gauaf mewn hinsawdd fwy tymherus. Gwanhàu, modd bynag, a wnaeth yn raddol; prin y cododd o'i wely ar ol y 30ain o Ragfyr, ond gallodd ymddyddan â'i gyfeillion hyd Sabbath, Chwefror 3ydd. Ar hyd yr wythnos ganlynol yr ydoedd yn rhy wan i siarad, er ei iod, dybygid, yn adwaen ei berthynasau, y rhai oeddynt yn gweini arno; ac ar ol Sabbath, y lOfed, bu yn yr ystâd a eilw meddygon yn coma, sef tuedd barhàus i gysgu, hyd taa hanner awr wedi naw bore Mawrth, y i2fed, pan y tynodd ei anadl olaf yn esmwyth, ac yr ehedodd ei enaid mawr fry, i dderbyn ei wobr, ac i wasanaethu ei Dduw mewn rhyw ddull perffeithiach nag y gallodd wneyd ar hyd ei hirfaith oes ddaearol. Yr oedd yr hir nychdod y crybwyllwyd am dano wedi parotoi llawer o gyfeillion ac edmygwyr y Doctor i ddysgwyl clywed am ei farwolaeth; ac eto, pon aeth y newydd allan fod y diwedd wedi dyfod mewn gwir- ionedd, fe barodd dristwch a galar dwys, nid yn unig yn Scotland, ond ymhob parth o'r deyrnas gyfunol, a hefyd niewn lliaws o wledydd tramorol. Ac nid rhyi'edd, eanys yr oedd ei glod yn yr holl eglwysi, a'i enw yn adnabyddus ymhob teulu a gymerent fesur o ddyddordeb yn yr achos cenadol, yn enwedig mewu cysylltiad âg India. Ac yr ydym yn credu mai dwyseiddio yn fwyfwy a wna y tristwch o herwydd ei ymadawiad. Y mae felly bob amser yn achos dynion o'i fath ei: mae eu marwolaeth yn gwneyd llaweroedd yu ymwybodol o golled i raddau helíiethach nn^ n d h'?gvvìH canddvnt hwy eu hunain. T<a y macnt 1878.—i. 8b