Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

íl Y TRÁETHODYDD. DOSBAETHIAD CYFOETH. Mae yr adroddiadau yn y newyddiadaron am y cyfyngder sydd yn ddiweddar wedi cymeryd lle mewn rhanau o'r Deheudir, o herwydd iseldra y fasnach haiarn a glo, wedi argraffu ar ein meddwl yu fwy nag erioed yr anghenrheidrwydd am wybodaeth helaethach o egwyddorion trefnidedd yn ei gwahanol ganghenau ymysg y dosbarth gweithiol. Nid ydym heb feddwl, ac y mae genym seiliau digonol dros gredu hyny, fod y desgrifiadau yn y papyrau dyddiol ac wythnosol o sefyllfa pethnu yn cynnwys llawer o ormodiaeth. Eithr nid oes dadl fod cannoedd lawer, os nad rhai miloedd, o'n cydwladwyr wedi dyoddef tlodi mawr vn ystod y misoedd diweddaf. Gobeithiwn yn hyderns erbyn y daw y llinellau hyn o flaen llygaid ein darllenwyr y bydd masnach wedi ymadfywio, a llanw cyfyngder wedi treio. Ond pe buasai holl feibion llafur yn nyffrynoedd Taf, Cynon, Rhymni a Rhondda, wedi trefnu eu tai yn dda yn adeg y Uwyddiant anghyffredin fu ar fasnach ychydig o flynyddoedd yn ol, fel yn ddiamroheu y gwnaeth llawer o honynt, ni fuasai y ddegfed ran o'r tlodi a'r cyfyngder a deiralwyd y misoedd diwediaf. Pe buasai hanner yr arian a wariwyd yn y tafarnau wedi eu sefyll, pa un bynag ai gan y teuluoedd unigol, neu ynte mewn cronfa gyffredinol, buasai erbyn hyn wrth law drysorfa yn cynnwys swm mor fawr, fel y buasai hyd yn nod ei log yn myned ymhrü i gyfarfod anghenion y cyfyngder diweddar. Pa mor ddwfn a dygn bynag y tlodi a ddyoddefwyd, mae y meddwl am y gwastraff blaenorol yn llawn mor alaethus. Ac nid oes yr ammheuaeth Ueiaf am y cysylltiad rhwng y naill a'r llall. A. dylai yr arogylfhiad presennol fod yn rhybudd: er y mae Ue i ofni mai ofer fydd. pob rhybudd, tra y parhâo melldith y fasnach mewn diodydd meddwol. Os gwir a ddywedwyd wrthym, y mae hanner ennillion un o'r cymoedd gweithfáol a nodwyd, yn cael eu gwario yn y t farnau. Nid rhyfedd ?an hyny yr atebid mewn yraholiad diweddar, ìiu'l v dos'uarth rawyaf parchns raewn plwyf neillduol, ydynt perchenogion y gweithiau glo a'r tafarnwyr. Pan y mae cyfran raor fawr o'r cyfiogau yn cael eu llyucu yn y tai cyhoeddus, nis gollir dys^wyl i'r masnachwyr raewn bwvdvld a dilla<l flodeuo, h^ v m^e 1878—2. i