Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

43 Y TRAETHODYDD. Y JEEUSALEM DANDDAEAROL. Y mae gan ddinas hedd ei hanesiaeth ddyddorol, yn ymestyn ara o ddwy i dair mil o flynyddoedd, ac yn cynnwys ynddi bennodau meith- ion o gyfnewidiadau pwysig ac o drallodau blinion. O'r adeg y cawn hi yn ymddangos gyntaf ar lwyfán hanesiaeth, fel amddiffynfa gadarn ar ael y bryn ; o'r adeg y cawn hanes yn Llyfr y Barnwyr i feibion Judah ymosod arni a'i hennill hi—yr hyn oedd oddeutu 1400 o flyn- yddoedd cyn Grist, a 700 o flynyddoedd cyn sylfaenu dinas Rhufain— hyd y fiwyddyn 1244 o oedran y Gwaredwr, pan yr ymosodwyd arni ddiweddaf gan un o lwythau anwaraidd yr anialwch, fe ddywedir ei bod wedi cael gwarchae yn ei herbyn gan ei gelynion gymaint a saith ar hugain o weithiau. Dywedir fod y Jerusalem sydd yn awr, yr wythfed ddinas yn y gyfres gyfnewidiol. Yr oedd y gyntaf yn bod yn amser y Jebusiaid, yr hon a fu yn feddiant iddynt hyd amser Dafydd. Yr ail, yn amser Solomon, yr hou a fa yn aros am bedwar cant o flynyddoedd. Y drydedd oedd dinas Neheniiah, yr hon hefyd a fu yn aros am rai cannoedd o flynyddoedd. Wedi hyny dinas Herod, yr hon a ddinystr- iwyd gan Titus yn y flwyddyn 70 o.c. Wedi hyny cawn hi yn ddinas lìufeinig dan yr ymherawdwr Hadrian. Wedi hyny ceir hi yn ddinas Fahometanaidd dan Oraar. Wedi hvny yn ddinas Gristionogol o dan Laldwin a Godfrey. Ac yn dd'weddaf oll, sef yr wytbfed mewn nifer, ceir y ddinas sydd yn aros yn awr, yr hon bellach sydd wedi bod à'i gwddf o dan iau orthrymus Mahomed er ys chwe' chant o flynyddoedd. Felly yr ydym yn cael ymhlith ei Uwch, ei sorod, a'i meini hi, nid olion a gweddilliou o un ddinas yn unig, ond yn hytrach o ddinasoedd lawer, y rhai a " wnaed yn bentwr ac yn garnedd" gan ei gelynion am oesoedd lawer. Felly mae y defnyddiau a'r ysbwrial cymysgedig hwn, ar ba un y mae y ddinas bresennol wedi ei hadeiladu, yn waddodiadau trwchus, os nad yn haenau rheolaidd, ac yn cynnrychioli y gwahanol gyfnewidiadau a geir yn hanes y ddinas. Yn y dyfnder isaf, ac yn gorwedd wyneb yn wyneb â'r graig, ceir adfeilion o'r hen ddinas Jebusiaidd gyntaf; wedi hyny ceir adfeilion o ddinas Solomon; wedi 1878—1. a