Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. BYWYD CBIST GAN DE. FAEBAB. The Life of Christ. By Frederic W. Farrar, D.D, F.R.S.; late Fellow of Trinity Gollege, Cambridge; Master of MLarlborough Gollege; and Ghaplain in Ordinary to the Queen. In Two Volumes. Eighteenth Edition. CasselL Petter, & Galpin : London, Paris, & New York. Mae i'r gwaith hwn, mewn un ystyr o leiaf, hanes lled nodedig. Yr ydym yn awr yn cyfeirio at yr hyn a ddygwyddodd iddo ar ol ei gyhoeddiad. Am ei hanes cyn hyny, o ran y rheswm paham yr ysgrif- enwyd ef, a'r amcan y bwriedid iddo ei gwblháu, yr hyn a hysbysai hyny oreu fyddai ychydig eiriau allan o ragymadrodd y gwaith ei hunan:— "Y mae er ys hir amser wedi bod yn ddymuniad ac amcan gan gyhoeddwyr y gwaith hwn i 'ledaenu càn helaethed ag y mae yn bosibl fendithion gwybodaeth; ac fel ymdrech benodol tuag at gwblhâd y bwriad hwn, ewyllysient ddodi yn nwylaw eu darllenwyr y cyfryw ddarluniad o Fywyd Crist ar y ddaear ag a'u galluogai i'w sylweddoli yn gliriach, ac i fyned yn fwy trwyadl i mewn i fanylion a threfn ddilynol yr adroddiadau efengylaidd. Am hyny, hwy a wnaethant yn gyntaf gais at dduwinydd enwog, yr hwn a dderbyniodd y cynnyg, ond, trwy ei ddyrchafiad i fod yn esgob, a luddiwyd i'w gario allan. O dan yr amgylchiadau hyn," ceisiwyd gan Dr. Farrar ymgymeryd â'r gwaith; ac yntau, wedi cryn ystyriaeth, nid heb anhyder ac, yn wir, ofn, o'r diwedd a gydsyniodd. Ond, fel y crybwyllwyd, cyfeirio yr oeddem ni at hanes a helynt y llyfr hwn wedi ei ddyfodiad allan o'r wasg. Gwelir iddo fod yn dra phoblogaidd. Mae ei boblogrwydd yn hysbys bellach i bawb. Sicrhaodd y poblogrwydd hwnw mewn tymmor byr. Gwerth- wyd o hono ddeunaw o argraffiadau mewn llai na dwy fiynedd o amser. Ac yr ydym yn awr yn gweled bod y cyhoeddwyr yn dechreu dwyn allan eto argrafriad mewn rhanau, gyda'r amcan, yn ddiau, o beri fod y gwaith yn nês at gyrhaedd y rhai nas gallant bwrcasu llyfr o'r fath ar unwaith. 0 ran y derbyniad a gafodd, hwyrach fod y gwaith hwn, pan ystyrir ei bwnc a'i bris, braidd ar ei ben ei hunan yn hanes cyhoeddiad llyfrau. Ac er nad yw bod llyfr, mwy na rhywbeth arall, yn boblogaidd, 1877.—2. "-■'■*"■:'■: