Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. ISMAEL MAB NETHANIAH. A Dictìonary of the Bible. Edited by "William Smith, LL.D. Articles, Ishmael, Israel, Jtidah, &c, &c. London : John Murray. 1863. The History of Israel. By Heinrich Ewald. Edited by Eussell Martineau, M.A. London : Longmans, 1869—1875. Y mae Geiriadur Ysgrythyrol Dr. William Smith, a Hanesyddiaeth Israel gan y Proffeswr Ewald, a llyírau cyffelyb iddynt, yn rhoddi manteision rhagorol i gyrhaedd gwybodaeth helaeth am fanylion amrywiol ddygwyddiadau na chofnodir ond eu harlinellau yn y Bibl, ac yn ein galluogi i wisgo à chnawd a gíau a chroen lawer o gymeriadau, y rhai, yn y crybwylliadau prinion am danynt yn yr Ysgrythyrau, a ymrithiant megys drychiolaethau o flaen y meddwl. Bỳr ydyw yr hanes Biblaidd a geir am lawer o'r dygwyddiadau a gyfodasant o'r elyniaeth rhwng llwythau Judah ac Ephraim, a phrin ydyw y cyfeiriad yn yr Ysgrythyr at y cymeiiad rhyfedd hwnw, Ismael mab Nethaniah. Gadawer i ni gymeryd brâsol\Ag ar effeitliiau yr elyniaeth, ac ar weithredoedd lsmael, yn y goleuni a geir arnynt yn ymchwiliadau y blynyddoedd diweddaf. Ycbydig feddyliodd yr hen batriarch Jacob, pan yn bendithio ei feibion, cyn ei gasglu at ei bobl, ei fod, wrth roddi arbenigrwydd neill- duol ar Judah a Joseph, yn hau hadau eiddigedd rhyngddynt, ffrwyth yr hwn oedd i'w fedi mewn drwg deimlad parhäus trwy yr oesoedd, oyd nes yr achosodd yr ymraniad yn y chwyîdroad ar goroniad Rehoboam, ac yn y diwedd a ddygodd oddiamgylch y dygwyddiadau a arweiniasant i gaethgludiad hiliogaeth Israel o wlad yr addewid. Pan ddywedwyd wrth Judah y l,byddai i'w frodyr ei glodfori, a meibion ei dad ymgrymu iddo, nad ymadawai y deymwialen oddiwrtho, na deddfwr oddirhwng ei draed," ac y cyfarchwyd JosepTi fel " yr hwn a neillduwyd oddiwrth ei frodyr, i dderbyn rhagorol fendithion ei dad, hyd derfyn bryniau tragywyddoldeb," dechreuodd eiddigedd rhwng y ddau lwyth nas gallodd dim ei dd< fi « hyd ddyfodiad y Silob, at yr hwn yr oedd cynnulliad pobloedd." Yr' oedü effeithiau yr eidtìigeda hwn, u'r 1876.-» i