Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y DEALL DYNOL YN ARWEINYDD DIYMDDIRIED. Ymddengts fod gogwydd cryf yn yr oes bresennol i osod rawy na digon o ymddiried yn arweiniad y deall dynol. Mŷn rhai ei osod yn oruchaf mewn awdurdod, gan ei ystyried yn arweinydd anffaeledig. Hònir ei fod yn abl, gyda phob d'iogelwch, i ddethol y gwir oddiwrth y gau, a'r gwych oddiwrth y gwael. Edrychir arno fel gallu holl-ddigonol i chwilio allan y gwirionedd, a nithio ymaith ûs cyfeiliornadau. Mor bur yw ei amcan, ac mor berffaith yw ei allu, fel nad oes arno gymaint ag eisieu help neb na dim ond ei hunan. Edrychir ar hyny o wybodaeth y mae y byd wedi ei gyraedd, a hyny o wirionedd sydd yn ei feddiant, yn ffrwyth ymchwiliadau y deall dynol. Nid yw y dybiaeth oddadguddiad goruwchnaturiol ond camsyniad, ac y mie arweiniad goruwchddynol yn ddianghenraid ac yn hòniad twyllodrus. Nid yw y Bibl ond dynol. Yn ol y naill, yn llyfr drwg a chyfeiliornus, yn haeddu ei gondemnio a'i wrthod; nid oes dim yn rhy gableddus a dirmygus i'w ddyweyd am dano: yn ol y lleill, yn llyfr da, yn cynnwys ymchwiliadau y dynion goreu, a gwirioneddau a moeswersi o'r gwerth mwyaf; ond y cwbl yn gynnyrch y meddwl dynol. A chan fod y byd yn myned rhagddo, a'r deall dynol yn chwanegu ei nerth ac yn ymberffeithio, fod yn bosibl i ddynion da a doeth yr oes hon gynnyrchu llyfrau gwell a pherffeithiach. Wrth gwrs, y mae y byd yn myned yn well well, a dynion yn dyfod yn gallach gallach, ac felly y mae dynion a dysgawdwyr yr oes hon yn well, a challach, a diogelach, na neb a fu o'u blaen. Fel y darfu i Grist a'i apostolion daflu Moses a'r prophwydi i'r cysgod, felly y mae dynion da a chall yr oes hon yn taflu Crist a'i apostolion i'r cysgod. Nid oes neb i'w gydnabod yn y cwbl ond y dyn. Y mae pob gwybod- aeth a gwelliant yn ffynnoni ynddo ef. Dynion sydd yn dyfod yn gallach gydag amser ac ymarferiad, ac nid ydym yn ddyledus i neb na dim uwchlaw y deall a'r rheswm dynol; os oes neb na dim yn bod, yn wir, uwchlaw y dyn. Ond pa fodd bynag, ceir eraill ychydig yn fwy cymedrol. Edrychant ar sefyllfa y ddynoliaeth yn gyfryw fel ag i wneyd dadguddiad goruwchnaturiol yn ddymunol, os nad yn angen- rheidiol. Oydnabyddant fod y Bibl yn cynnwys y dadguddiad dymunot hwnw; ond rywfodd, fod ynddo lawer o gamsyniadau. Llawer o'r dynol wedi llithro yn gymysg â'r Dwyfol; llawer darn o'i hanes yn gyfeiliornus, llawer tystiolaeth ynddo yn ddiymddiried, a llawer hòniad yn dwyllodrus. Nis gellir ymddiried am yr awdwr na'r amser yr hònir i'r llyfrau gael eu hysgrifenu; na chwaith am ddilysrwydd y ffeithiau a adroddir; ac y mae aml un o'i athrawiaetb.au yn ammhëus. 1870___8. ' s