Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y PUMLLYFR SAMARITANAIDD. Mewn rhifyn blaenorol ni a gymerasom olwg fras ar hanes a chyn- nwys y Pumllyfr Samaritanaidd. Ein hamcan yn awr yw gwneyd ym- chwil byr i'w nodweddiad fel awdurdod mewn beirniadaeth Fiblaidd. Yr ydym wedi awgryma yn barod fod y beirniaid, hen a diweddar, yn amrywio yn fawr yn eu golygiadau ar hyn. Tra yr oedd yr awduron Iuddewig Talmudaidd yn collfarnu y Samaritaniaid a'u llyfrau, yr oedd amryw o'r awduron Cristionogol cyntaf, megys Jerome, yn rhoijy fiaen- oriaeth i'r Pmnllyfr Samaritanaidd, ac yn cyhuddo yr Iuddewon o gyf- newid rhanau o Air Duw. Ymysg y rhai diweddar, y mae Morin yn ei godi ymhell uwchlaw y testun Iuddewig, ac eraill, megys Houbigant, Kennicott, Geddes, yn ei ganlyn i fesur mwy neu lai. Y mae eraill, megys Michaelis, Eichhorn, &c, yn cymeryd golygiad canol, gan ddal mai y testun Iuddewig yw y gwir safon, ond y gellir defnydàio y testun Samaritanaidd i wella darlleniadau penodol. Y mae dosbarth arall, rhy aml i'w henwi yma, yn ei osod ymhell îslaw y testun Iuddewig— mor isel, fel o'r braidd y mae yn teilyngu y sylw lleiaf mewn beirniad- aeth. Yr enwocaf yn y dosbarth yma yw Gesenius. Yn y flwyddyn 1815, fe gyhoeddodd draethawd ar y pwnc, dan yr enwad DePentateuchi Samaritani Orígine, Indole, et Auctoritate, Halse, 4to. Ar ol adrodd ei farn nad oedd y Pumllyfr o gwbl wedi ei ysgrifenu gan Moses, ond wedi ei ffurfìo yn amser y caethiwed Babylonaidd—a gwadu henafiaeth y llyth- yrenau Samaritanaidd (yr hyn a orfu iddo alw yn ôl), y mae yn myned rhagddo i nodi yr amrywiadau sy rhwng y testun Samaritanaidd a'r un Iuddewig, ac yn eu rhestru yn wyth dosbarth. 1. Cyfhewidiadau o natur ramadegol. 2. Egluriadau (ar ymyl y ddalen) wedi eu corffori ar testun. 3. Egluriadau ar leoedd tywyll. 4. Gwelliadau neu chwanegiadau wedi eu dwyn i mewn o leoedd cyfatebol, 5. Chwanegiadau helaeth wedi eu rhoi i mewn yn ffuantus. 6. Cyfnewidiad mewn geiriau a brawddegau oedd yn cynnwys pethau gwrthwynebus i'r cop'iwyr Samaritanaidd. 7. Cyfnewidiadau o'r priod-ddull Hebreig i'r un Samaritanaidd. 8. Cyfnewidiadau o blaid y syniadau a'r defodau Samaritanaidd. Yr ydym wedi geirio y penau hyn yn bur fỳr; ond fe ddealla y dar- llenydd ystyr cyffredinol y cwbl, hyderwn. Dan y penau vma v mae 1867.—2. k