Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y CNAWDOLIAD A'R CWYMP. Un o brif gwestiynau ymchwiliad duwinyddol yr oes hon ydyw Person a Chnawdoliad yr Arglwydd Iesu ; eto nid oes un pwnc o Dduw- inyddiaeth wedi derbyn ynidriniaeth mwy ehang a manwl, a hyny mor fore â'r bedwaredd ganrif. Yr oedd hyd yn nôd Calvin, fìl o fiynydd- oedd ar ol dyddiau Athanasius, er íod ei Gorff o Dduwinyddiaeth yn cael ei gyfrif yn rhagori ar bob gwaith cyffelyb a ymddangosodd o'i flaen, yn ystyried fod Athanasius wedi cario y pwnc hyd at derfynau eithaf ym- chwiliad ; ei fod wedi ei ddyhysbyddu; ac fod deffiniadau a phenderfyn- iadau cynghorau eglwysig yr oes hono yn cynnwys yr oll o'r gwirionedd arno. Barnai efe am bob syniad arno oedd yn ddiweddarach na chy- nghorau Caercystenyn, Nice, Ephesus, a Chalcedon, nad oedd yn wir; ac am bob golygiad oedd yn wir, nad oedd yn newydd. Cyffelyb oedd golygiad y prií awduron yn y wlad hon ar yr athrawiaeth. Nid yw Hooker na Pearson, Waterland na Bull, yn amcanu gwneuthur mwy nag esbonio &z amddiffyn athrawiaeth Athanasius; a'r un peth ellir ddywedyd am Dr. Owen. Mae haeriad Calvin, ar y cyfan, yn wir. Gwirionedd mawr dyddiau Athanasius oedd Person Crist; yn erbyn yr athrawiaeth hon yn benaí yr oedd cyfeiliornwyr ei amser yn ymosod ; a gwaith mawr Athanasius a'i gydlafurwyr oedd chwilio am y gwirionedd ar y pwnc, ei amddiffyn, a'i argraffu yn ddwfn yn nghrediniaeth yr eglwys; ac y mae yn rhaid cydnabod fod y Pen Mawr wedi eu cynnysg- aethu yn helaeth à doniau at eu gwaith, ac âg eiddigedd mawr dros y gwirionedd. Bydd eu hôl ar yr eglwys trwy holl oesoedd y byd. Wedi y cwbl, rhy biin y gallwn feddwl fod y mater wedi ei ddyhysbyddu. Mae y cyfryw dybiaeth yn anghyson âg ehangder annherfynol gwirion- eddau Cristionogaeth, ac o'r holl wirioneddau hwn yw yr ehangaf. Diammheu y gali pob oes o Gristionogion ddarganfod rhywbeth newydd o werth ynddo, wrth chwilio i rnewn iddo yn wylaidd a pharch- us. Yr un pryd, dichon fod tadau eglwysig y bedwaredd ganrif wedi penodi terfynau y maes. Gyda golwg ar wir Dduwdod a gwir Ddyndod y Cyfryngwr, ynghyd a natur yr Undeb rhwng y Duwdod a'r Dyndod yn ei Berson, y mae lle cryf i feddwl fod eu casgliadau mor gywir ac mor ehang, fel nad oes un duwinydd a ddaeth ar eu hol wedi cael lle i gywiro dim arnynt, nac i ychwanegu un gwirionedd pwysig atynt. Eu golygiadau hwy sydd wedi eu coledd yn y brif eglwys hyd y dydd hwn, ac nid oes argoel y symudir byth mo'r hen derfynau. Mae yr eglwys wedi gorphwys yn dawel am bymtheg cant o flynyddoedd yn y