Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. CYMEU. Mae mwynder yn awelon iach y bryniau, Prydferthwch yn ngwynebpryd goleu 'r nef, Arddunedd ar ddyfnderau 'r môr a'i dònau, A miwsig yn ei ru anfeidrol ef, Gogoniant yn ngwyrddlesni y dyffrynau, A mawredd ar ddelweddau 'r gwylltedd llwm, Tlysineb yn nolenog gyrch y ffrydiau, Ac ardderchogrwydd yn y rhaiadr trwm, A swyn yn gorphwys ar bob mynydd, bryn, a chwm. n. A sefaist di ar grib y creigfryn tawel Tra 'r hwyr yn disgyn ar y byd islaw, Y seren hwyrol fry fel llygad angel, A'r dydd yn marw ar y gorwel draw, Rhu 'r môr tra 'n suo 'i hun wrth lais yr awel Draw 'n y pellderau yn tori ar dy glyw,— Heb deimlo ryw syniadau pur, aruchel, Fel yn gogleisio 'th natur oll yn fyw ?— Os felly, druan un, dy enaid marw yw! IIL O ! Gymru! Gymru! prif anwylyd anian; O ganol gwledydd byd dewiswyd di Fel i arddangos mewn amgylchèdd bychan Holl amrywiaethau ei delweddau hi; Aruthredd a dullynion cylch pedryfan Yn cydgyfarfod ynot ti a gawn, A swyn prydferthwch yn coroni 'r cyfan Yn un cyfuniad gogoneddus, llawn, Gan herio yn eu rhwysg holl nerthoedd iaith a dawn. IV. Ymasia creigiau oesol dy fynyddau O'th gylch fel caerau triphlyg gwlad j>*fri> 1860.—-2, "* K