Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DADL Y DULLIAU ; NEU, MANSEL, MAUEICE, A MANSEL. Er dwysed y pryder a deimla pob dosbarth o ddyngarwyr rhyddfrydig ynghylcb annibyniaeth yr Eidaliaid, ac er mor hirllaes sain yr udgorn sydd yn galw ar ein teyrnas i yinbarotöi i wrthsefyll amcanion uchelgeisiol yr eryr Ffrengig, yr ydym yn synied na chyfeiliornem wrth ddywedyd nad ydyw dwysder y naill, nac hirllaesder y Uall, un gronyn mwy na'r pryder sydd er ys blynyddau bellach wedi meddiannu cyfeillion crefydd, a'r alwad uchel sydd arnynt i ymarfogi fel y gallont sefyll dros y gwirion- eddau hyny a werthfawrogant yn uwch na bywyd, a gwrthsefyll holl am- canion maleisus yr " un drwg," nad pa un a amlygir hwy yn heresiau " gelynion croes Crist," ynte yn "ysbryd cyfeiliorni " cyfeilîion y gwirion- edd. Y mae y Traethodydd eisoes wedi galw sylw ei ddarllenwyr at y pethau hyn fwy nag unwaith; ac y mae yn bryd iddo drachefn godi ei lais, a rhoddi allan sain eglur, yn gymaint a bod dadl y dulliau yn cynhyrfu y byd duwinyddol byd ei seiliau, ac yn rhoddi mantais dda i ni weled pa beth yw sefyllfa bresennol beirniadaeth yn ei pherthynas â gwirioneddau hanfodol Cristionogaeth. Afreidiol ydyw hysbysu ein darllenwyr mai nid gwrtbddadleuon anffyddiaid, fel Voltaire a Paine, yw y rhai anhawddaf eu cyfarfod a'u gwrthbrofi; oblegid y mae y gwadiad yna o'r holl wirionedd yn hunanddinystriol. Nid haeriad disail, yn deilliaw oddiar ein mympwy- on personol, ydyw hwn, ond ffaith hanesyddol; canys ymha le y ceir, yn y dyddiau hyn, y dynion a wadant y gwirioneddau hanfodol a wedid yn y canrif diweddaf ? Onid oes ar ddynion gywilydd haeru nad oes un Duw ? Oni chydnabyddir dilysrwydd ac awduriaeth yr hen lyfr gan bawb ? Fe ellid meddwl fod y rhai hyn yn rhagarwyddion gobeithiol o'r milflwyddiant dedwydd, ac yn brofion fod dyddiau tywyll ammheuaeth ac anffyddiaeth wedi eu rhifo. Ofnwn, fodd bynag, mai nid diberygl barnu yn rhy frys- iog; a bod yr ymwrthodiad âg anffyddiaetb ddihoced, a'r dychweliad at yr hen wirioneddau sylfaenol, yn ddim amgen nag anffyddiaeth yn ail ddechreu ei gyrfa gyfeiliornus. Llithrigfa ydyw cyfeiliornad. Nid ar.unwaith y gwedir y gwirioneddau sylfaenol o fôd Duw, anfarwoldeb yr enaid, a'ü cyffelyb; eithr cymer yr " ysbryd cyfeiliorni" flynyddoedd meithion i ymddadblygu i'r radd ofnadwy yna. Felly y bu yn oesoedd cyntaf Cristionogaeth: yn yr eglwys ei hun y magwyd y cyfeiliornadau mwyaf dinystriol; eithr nid oedd y dadblygiadau cyntaf yn bwysig—dim yn ddigon pwysig, o bosibl, i effeithio ar y'fuchedd. Ond fel yr oedd blynyddoedd yn ymdreiglo, ac fel 1860.—1, b