Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD CYMERIAD CRIST FEL DIWYGIWR YN El BERTTIYNAS A CH YMDEITHAS. Nid ocs un testun, hwyrach, wedi trethu meddyiiau y galluocaf a'r mwyaf myfyrgar o ddynion gymaint a dyfodiad pecliod i'r byd, ynghyd â chysondeb ei barhad mewn bodolaeth â rhai o briodoliaethau y Gorucliaf. Pe byddai llai o ddaioni naturiol a rhagiuniaethol ar y ddaear nag y sydd, gorfyddaí i'r mwyaf anystyriol a'r difeddwl ymboeni uwch ben dyfnderoedd y pwnc gorddyryslyd hwn. Nid tebygol y gwna y llîaws gythryblu eu hunain lawer ynghylch y mater cyhyd ag y medrant cldyfod o hyd i fwyd, d'iod, a dillad. Yn uffern, lle nid oes dim ond drwg, teimlir yn gyflawn holl effeithiau pechod. Collir golwg ar ganíyniadau moesol pechod tra y trigir mewn byd lle mae cymaint o ddaioni naturiol. Nid annhebygol nad ydyw presennoldeb drwg yn mawrhau gwerth yr hyn sydd dda yn y byd presennol. Ar ol afiechyd y profir cyflawn felusder iechyd ; ar ol gauaf oer a du y teimlir ac y prisir gwres, gogoniant, a ffrwythlondeb yr haf. Ar ol newyn y dysgir gwerth digonedd o fara. Nis medrwn yn ein sef- yilfa bresennol esbonio gweinidogaeth drwg moesoi a naturiol yn nhrefn amrywran y nefoedd. Gwyddom fod "pob peth yn gweithio er daioni." Mae dau wyneb i dudalenau hanes foesol ein byd ni. Cynnwys un gyfrif am ddechreuad, cynnydd, dylanwad, ac effeithiau pechod: cynnwys y llall gyfrif am ymdrechion gwahanol bersonau ac oesau er gwaredu dynion odditan iau pechod a drygioni. Yn absennoldeb goleuni a thyst- iolaeth esboniadol Dadguddiad, nid oes un creadur yn anhawddach ei ddeall a'i ddeongli na dyn. Ymddengys fel casgliad o eithafion—fel pentwr o anghysonderau. Ymddyrcha weithiau uwchlaw iddo ei hun; ymsodda eilwaith islaw iddo ei hun. Ymddengys yn ei weithredoedd fel pe byddai yn gyfansoddedig o ddwy natur gwbl wahanol, a bod y rhai hyn mewn rhyfel parhaus â'u gilydd. Weithiau ennilla y rhan feddyliol neu ysbrydol o'r dyn y fuddygoliaeth, a phryd arall y rhan anifeilaidd. Y peth cyntaf ag sydd yn anghenrheidiol er gwella unrhyw glefyd, neu symud unrhyw ddrwg—pa un ai naturiol neu foesol—ydyw cyrhaedd gwybodaeth sicr ynghylch ei drigle a'i natur. Yn ol fel y penderfynir trigle leol y drwg, y penderfynir natur y moddion er ei gyrhaedd a'i orchfygu. Os ydyw ei drigle y tuallan i'r dyn, moddion allanol i'r dyn raid eu defnyddio er ei gyrhaedd : os o'r tufewn i'r dyn y mae eisteddle y drwg, rhaid gwneyd defnydd o foddion cyfaddas er cyrhaedd y "dyn oddimewn." Ni gawn weled yn uniongyrciiol fod nifer o ddiwygwyr wedi methu gwella ágwedd foesol y byd, oblegid camsynied ýnghylch gwir drigle y Hydref, 1851.] 2 E