Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PREGETHÜ. 109 yn areithiwr digyffelyb, ac yr oedd holl Gymru yn myned ar ei ol. Dyma sydd yn cyfansoddi areithiwr da:—bod ganddo fater teilwng wedi ei wisgo mewn dull teilwng. Y mater yw y cyntaf a'r peth mawr, ond nis gellir dangos hwnw yn fanteisiol heb y peth arall. Os heb fater, ofer yw y dull goreu o siarad; ond os heb y naill a'r llall, y mae yn dlawd yn wir. Madd- euer i ni am adrodd yma sylwadau un o brif-feirdd Cymru yn yr oes ddi- weddaf, gŵr o synwyr ac athrylith mawr, am ddau bregethwr, y rhai oeddynt dra gwahanol i'w gilydd o ran eu dull; un yn hollol ddigyffro ac undônaidd o'r dechreu i'r diwedd, a'r llall wrthi a'i holl egni, yn croch- floeddio, ac yn curo â'i ddwylaw a'i draed; ond yr oedd y ddau yn gyflelyb o ran diffyg o bethau sylweddol yn eu pregethau. Am y cyntaf, dywedai, 'Mae ef, druan, yn siglo, ac yn siglo o hyd; ond y gwaethaf yw, nid oes ganddo blentyn yn ei gryd;' ac am yr olaf, ' Dyna y pregethwr diflasaf a glywais erioed ; ni adawai i ni gysgu, ac nid oedd ganddo ddim yn werth i'n cadw yn effro.' ' Yn mhob llafur y mae elw/ ac y mae yn rhaid wrth lafur gyda holl ranau y weinidogaeth : llafur i chwilio am bethau i'w pregethu—llafur yn pregethu, mewn amser ac allan o amser—Uafur cyn a chwedi pregethu, mewn gweddiau o flaen gorsedd Duw—i'e, llafur yn mhob lle, a chyda phob peth, i fawrygu Crist, ac i ennill eneidiau. Mae y gwirionedd yn fŵnglawdd cyfoethog a dwfn; a rhaid wrth ddiwydrwydd dibaid i gloddio allan y mettel gwerthfawr. Yr oedd yr hen brophwydi, er eu bod dan ddylanwad ysbrydoliaeth, yn ymofyn ac yn manwl-chwilo am wrth- ddrych mawr eu rhagddywediadau; ie, y mae angelion Duw yn astudwyr dyfal yn ngwirioneddau yr efengyl; maent yn chwennych craffu i'w dad- guddiedigaethau. Os rhaid i ni gredu fod y pregethwr dilafur yn yr un frawdoliaeth â'r myrddiwn o angelion, rhaid i ni gael meddwl fod arnynt hwy gryn gywilydd o hono. Yn awyr y Bibl y mae y pregethwr i fyw : ' Yn y pethau hyn aros.' Fel y masnachwr yn ei faelfa neu ystordŷ, yr hwn a ŵyr ar unwaith pa le i gael pob nwydd sydd yn eisiau, felly y dylai y pregethwr fod gyda llyfr Duw, sef yn hyddysg yn mhob rhan o hono. Fel hyn y bydd ' dyn Duw yn gyflawn, wedi ei addasu yn drwyadl at bob gwaith da.'* A phan elo i faesydd y gwybodau a'r celfyddydau, mae ef i ddyfod a'i holl ysbail oddiyno yn gysegredig at waith y deinl. Mae i wneyd pob peth a welo, a glywo, ac a ddarlleno, yn wasanaethgar at ei orchwyl mawr. ' Llaw y diwyd a gyfoethoga.' Mae galluoedd y meddwl yn ymëangu wrth eu hamaethu, ond y maent yn gwaelu wrth eu hesgeul- uso. Rhai, ag oeddynt o ddoniau naturiol rhwydd, wedi myned i beth Hafur yn nechreuad eu gweinidogaeth, a rhedeg yn dda am dymmor, a or- phwysasant ar hyny; ni wnaethant byth chwanegiad at eu hystôr ddeallol; ac felly a adawsant i'w heneidiau fyned yn gulion a llwydaidd. Yn awr, mae yn faich iddynt feddwl am astudio ; pan yn meddu hamdden, yn lle aros i ddarllen, a myfyrio, ac ysgrifenu, gwell ganddynt rodio o dý i dŷ; nid oes ganddynt ond yr un pregethau bob amser; ac y mae eu ditfrwyth- der ac nid eu cynnydd yn eglur i bawb. Pwy bynag a elo i segura, mae Duw a dynion yn dysgwyl i weinidog yr efengyl fod yn weithiwr, ac yn 'weithiwr di- fefl.' Pan na byddo yn pysgota, dysgwylir ei fod yn trwsio ei rwydau. Yn mhob peth, mae i edrych at y weinidogaeth a dderbyniodd, ar iddo ei chyf- lawni hi. Ond wedi, ac ynglŷn â phob llafur, rhaid dysgwyl yn gwbl wrth yr * Cyfiẃthiad Doddridge o 2 Tim. iii. 17.