Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2/3 Y TRAETHODYDD. LLEFARU MEGIS GEIEIAU DUW. CTNGHOR A DRADDODWTD AR NEILLDTJAD TRI-AR-DDEG O FRODTR I HOLL WATTH Y WEINIDOGAETH, TN NGHTMDEITHASFA CHWARTEROL T METHODISTIAID CALFrNATDD TN MANGOR, MEDI 6ED, 1871. GAN Y PAECH. OWEN THOMAS. Anwyl Frodye,—Yr ydwyf fì yn sefyll yma, yn ol penodiad y Gymdeithasfa, i draddodi gair o gynghor i chwi ar yr achlŷsur pwysig presennol. Yr ydych, yn awr, yn ol y drefn arferedig yn ein plith ni, a'r hon a olygir genym ni yn gwbl ysgrythyrol, wedi eich neillduo i'r swydd bwysicaf, ac i'r gwasanaeth anrhydeddusaf, a ymddiriedwyd erioed i ddyn,—i fod yn " weinidogion i Grist, a goiuchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw." Y mae tymmor eich prawf, yn mhlith eich brodyr, wedi darfod; yr ydych wedi myned trwy bob arholiad o'r eiddynt hwy, a thrwyddynt yn llwyddiannus; ac, yn awr, càn belled ag y mae a wnelo dynion à chwi, wedi eich "srosod yn y weinidogaeth." Yr ydych yn sefyll, gan hyny, heddyw, ar dir newydd,—tir na buoch arno erioed o'r blaen; y mae holl waith eich swydd yn awr yn agored i chwi; ac yr ydwyf yn gobeithio y canfyddir yn mhob un o honoch gysegredigaeth llwyrach nag erioed iddo; ac y profwch, yn eich ymroddiad iddo rhagllaw, eich gonestrwydd yn y broffes a wnaed genych yma heddyw, a'ch bod o ddifrif yn ymgymeryd âg ef fel gorchwyl mawr eich oes. O'r amrywiol adnodau a'u cynnygiasant eu hunain i'm meddwl, i'ch cyfarch yn awr oddiwrthynt, yr wyf fl wedi cael fy nhueddu yn benaf at eiriau a gewch yn Epistol cyntaf cyfîredinol Pedr yr Apostol, y bed- waredd bennod, a rhan o'r unfed adnod ar ddeg: — "Os LLEFAB.Ü A WNA NEB, LLEFARED MK.GIS GEIRIAU DüW." Mae y geiriau hyn, yn amlwg, yn eu cysylltiad â'r cyd-destyn, yn cael eu dwyn i inewn fel rhan o'r cyfarwyddyd a roddir yma gan yr Apostol i'r rhai a anerchir ganddo, pa fodd i arddangos y cariad hwnw at eu gilydd, a gymhellasid ganddo arnynt yn y geiriau blaenorol íel poth hanfodol er parotöad i gyfarfo-1 y "diwedd," a olygid ganddo yn 1873—1. A