Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PENARGL.WYDDIAETH. 13 PENARGLWYDDIAETH A THREFN DUW YN ACHUBIAETH DYN. (Llythyr at Gyfaill.) Anwyl Gyfaill,—Darllenais eich llythyr gyda hyfrydwch mawr. acr yr wyfyn caru hynawsedd eich ysbryd, yn fwy olawerna'ch golygiadau ar y pynciau a gynwysa. Cyfaddefaf yn rhwydd nad ydwyf yn anö'ael- cdig, ac y rhoddaf i fyny y farn sydd genyf ar bynciau sylfaenol yr efengyl, ond i chwi neu ryw un arall eu dangos yn gyfeiiiornus yn ngwyneb gair Duw. Cefais beth siomedigaeth na buasech yn adolygu ein " pwnc ysgol," canys dyallwyf wrth eich llythyr, ei fod yn groes i'eh. barn; ond er hyny, yr oedd yn dda genyf eich gweled yn treithu eich golygiadau, er eu bod yn wrthwynebol i mi. Ac yn awr gofynaf eiçh cenad i sylwi ar y pethau yr wyf yn methu gweled cysondeb ynddynt. Credwyf mai fel penarglwydd y meddyliodd ac y dewisodd Duw achub dynion, a gadael y cythreuliaid: ac hefyd mai o'i ras a'i benarglwydd- iaeth y darfu iddo ddewis trwy ba gyfrwng a threfn y gwnai gadw hii syrthedig Adda. Gan hyny, dyma Dduw fel penarglwydd wedi dewis trefn, wrth yr hoti y mae yn penderfynu cadw a cholli; acymaegwedi cyhoeddi i ninau yr amodau drwy y rhai y cyferfydd yn gymodlawn a throseddwyr, sef " Bod Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau, fel na cholíer pwy bynag a gredo ynddo ef, ond cafFael o honynt fywyd tragwyddol." Bellach, gallwn weled mai nid o'i benarglwyddiaeth y mae Duw yn cadw; ond yn ol ei drefn, canys pe byddai i Dduw gadw o*i benarglwyddiaeth, ar ol fFurfio trefn i gadw; gwnai hyny ei drefn yn hollol ofer, a byddai y drefn gyfryngol yn drefn farw, yn drefn ddiwerth a dianghenraid. Y mae annghyfnewidioldeb Duw yn peri i mi gredu ei fod yn cadw, fel ac y meddyliodd ac y bwriadodd gadw ; gan hyny, os yn benarglwyddiaethol y dewisodd gadw rhyw dyrfa i iachawdwriaeth, yn benarglwyddiaethol y gwna eu cadw i iechawdwriaeth. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng cadw trwy benarglwyddiaeth a chadw trwy iawn y drefn gyfryngol, ac y mae y ft'aith, bod Duw gwedi myned i'r fath draul i wneyd trefn i gadw, yn peri i mi gredu, mai yn ol ei drefn y mae yn cadw, ac hefyd y meddyliodd gadw, ac y mae hyny drachefn yn fy arwain i gredu mai wrth yr un rheol yr oedd Duw yn dewis a gwrthod, mewn bwriad cyu bod amser. Yn awr, dyfynaf rai brodäegau o'ch llythyr y sydd, i'm tyb i, yn dal allan mai yn benarglwyddiaethoh ac nid yn ol ei drefn y mae Duw yu cadw ac yn colli; acfelly yn gwneyd trefn gras yn drefn farẁ ac ofer. Dywedwch, " Ddarfod i Dduw—cyn sylfaenu y byd, ethol neu ddewì» tyrfa i iachawdwriaeth heb un rhagolwg ar eu hufydd-dod, Bftc un daioni ynddynt." 1. Gwelwn fed yr etholiad, neu y dewiaiad hwn yn benarglwyddiaethol. 2. Mai dewisiad penarglwyddiaethol rhyv dyrfa i iechawdwriaeth ydyw. $. Gwelwn fod penarglwyddiaeth yn dewis rhoddi iechawdwriaeth i'r rhai hyny yn d'diamodol heb uu rhagolwg ar eu hufydd-dod, nac un daioni ynddynt. Nid oes, gan hyny, yr un amod rhwng yr etholedig âg iechawdwriaeth, ynfydrwydd yw cyhoeddi, " Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi ;" oanys gwelodd penarglwyddiaeth yn dda roddiiechawdwriacth i'rethol- edig, heb gymaint a gofyn un ufydd-dod oddwrtho, ac ni waeth pe byddai y ctholodig yn bcchadur can waethod a ducd a'r cÿtBraal ei hiui ; canys y mae penarglwyddiaeth wedi ci ddewis i iechawdwnMtìh Cyf. IV. Rhif. 2.—Chwcfror, 1861.