Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARWYDDIOÎÍ YR AMSERAU. 109 ARWYDDION YR AMSERAU. Nid oes dim yn eglurach i'r sylwedydd manylgraff nad oes rhyw ysgogiad gwanaidd yn y byd crefyddol at gyfnewidiad neu ddiwygiad. Nid yw y pethau fel y maent yn boddloni y crefyddwyr—maent yn eu hanesmwytho. Ond yn annysgwyl- iadwy iawn i ni, beth bynag, y mae y cyfnewidiad ar neu yn cymeryd lle yn y corff parchus, cadarn a sefydlog a adnabyddir wrth yr enw Methodistiaid Oalvinaidd—a'r enw hwn y sydd yn eu hanesmwytho, maent yn anfoddlon iddo, am y rheswm, medd un ysgrifenydd, " mai enw a roddwyd iddynt gan ereill, ac nid wedi ei fabwysiadu gan yr enwacl, yw Trefnyddion Oalvinaidd." Rheswm afresymol iawn yw hwna—ereill yn rhoddi yr enw, hwythau yn ei dderbyn a'i arferyd,—ac yr oeddym ni gwedi meddwl mai rhywbeth tebygiawn i hyna, os nad hyna yw, " mabwysiadu." " Rheswm arall ydyw," medd yr ysgrifenydd, " am mai enw newydd hollol, dim ond can mlwydd oed (neu ychydig flyneddau mwy) yw ' Trefnyddion Oalvinaidd.'" Y petrusder ydyw ceisio cysylltu eu hunain» drwy gymeryd yr enw Presbyteriaid neu Henaduriaethwyr, â " Chalvin y diwygiwr mawr Protestanaidd," oherwydd, medd efe, " fod rhai yn dal yr un athrawiaeth a chyfundrefn eglwysig yn mhob oes o'r byd"—ac yr oedd y rhai hyn " yn myned dan yr enw ' Henaduriaethwyr' "—a dyma yr enw y maent am ei fabwysiadu. Os defnyddia ein cyfaill ei reswm blaenorol at hyn, caiff weled nad yw gwedi rhoddi un cam yn mlaen,* oblegyd " ereill a roddasant yr enw hWn—hwythau ydynt yn ei dderbyn,—ei fabwysiadu, yr hyn y sydd yn gwneyd ei reswm yn afresymol, neu waeth na hyny. " Rheswm arall" gan yr ysgrifenydd sonedig yw, " had yw yn hoíB i neb feddwl mai rhyw ' Ranters' neu ' Reformers' ydym (y Trefnyddion Calvinaidd) wedi cilio oddwrth yr ' Henaduriaethwyr/ ac hefycl rhag fod neb yn tybied fod ein hathrawiaeth, yr hon syddyn ol duwioldeb, yn caelei choleddu ond yn unig gan ychydig íiloedd fel y Trefnyddion Calfmaidd Oymraeg, pan mewn gwirionedd ei bod yn cael ei choleddu gan fwyafrif y byd crefyddol, &c." Y mae dau beth neillduol y mae crefyddwyr yn tybied ydynt ddwy ddadl anorchfygol dros gywirdeb eu syniadau, sef henaüaeth a lluosogrwydd. Y mao y Trefnyddion yn anfoddlon i neb dybied mai rhyw gan mlwydd oed yw eu crefydd, ac mai rhyw ddyrnaid o (iymru yw yr oll a goleddant Rhif. 10, Cyf, III.—Hydref, 1860.