Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

12 ŸIi HAUL Bu farw yn Tremadog, 1826, yn 55 mlwycld oed, a cliladdwyd ef ym mynwent Eglwys Penmorfa. 138. Foulhes (Wittiam), Glarn Dolbenmaen, mab yr uchod, oedd o'r un alwedigaeth a'i dad, ac a anwyd 1798. Yr oedd yn fasgeiniad rhagorol yn ei ddydd, ac yn lled ddeallus mewn cerddoriaeth. Bu am flynyddau lawer yn gôr-arweinydd yn Eglwys Dolbenmaen, a byddai yn arferol o fyned oddi am- gylch i ddysgu corau canu yn y gwahanol Lanau. Cyfausoddodd yntau rai tonau. Bu farw Chwefror 3ydd, 1886, yn 88 mlwydd oed. 139. Foulhes (William), Treffynnon, a anwyd tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Gwydrwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn gerddor gweddol dda, a chyfansoddodd rai tonau, megys " Swan Court," m.n. 8.7.4., yr hon a ymcldangosodd yn yr Eurgrawn Wesleyaidd yn 1827. Mae peroriaeth y dôn hon yn lled ystwyth, oncl nid diwall y gynghan- edd. Ar ol marw William Jacob yn 1846, William Eoulkes a benodwyd yn ddiacon ac arweinydd y gân yn ei le. Bu farw o ddeutu'r flwyddyn 1852, a'r pryd hyny o ddeutu 65 mlwydd oed. 140. Francis (John), Bhyd Hir, ger llaw Pwllheli. Melinydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac er yn ieuanc, yr ydoedd yn hoff iawn o gerddoriaeth. Er yn blentjm yr oedd yn hynod gywrain, a pha beth bynag yr ymaflai ynddo efe a'i gwnai yn ddeheuig a destlus. Dechreuodd gyfansoddi peroriaeth pan yn lled ieuanc, a phan fyddai wedi cyfansoddi tôn neu anthem, ei orchwyl cyntaf fyddai dysgu yr unrhyw i'w chwiorydd, y rhai oeddynt bump mewn nifer. Yn Seren Gomer am Tachwedd, 1821, mae tôn o'r enw " Mwyneidd-dra " o'i waith; ac mewn rhanau ereill mae'r tonau " Pwllheli " a " Gromer." Y tair hyn yn unig a welsom yn argraffedig o'i donau, ond mae llawer mwy mewn llawysgrifau o'i waith. Cyf- ansoddodd rai anthemau bychain, megys yr anthem ar Salm xxxix. 4, 5, 6, 7 (anthem angladdol). Y rheswm, meddir, fod gan lleied o'i waith yn argraff- edig yw, i ryw ddyhiryn ar noswaith dywell dori i fewn i'r felin lle y cadwai ei lyfrau a'i gerddoriaeth a'u dwyn oll, ac ni ddaethant fyth i'r golwg. Wedi cyrhaedd oedran gwr, ymbriododd ag Ellen, merch Evan ac Elizabeth Evans, o'r Trawsgoed, ger llaw Pwllheli, a ganwyd iddynt un ferch, Margaret. Rhoddodd John Franeis y felin i fyny, a threuliodd y rhan olaf o'i oes ym Mhwllheli. Arferai grefydda yng Nghapel Penlan, a bu yn arweinydd y gân yno am flynyddau lawer. Braidd yn wan oedd ei lais; eto llwyddai i gael gan y gynnulleidfa i'w ddilyn yn lled dda. Dywedir ei focl ef yn rhifyddwr lled wych, ac yn rhagorol mewn llawysgrifen. Fel ar- weinydd a pherorydd braidd yn ddiffygìol ydoedd, a mwy difîygiol fyth mewn cynghanedd. Bu farW Awst 19ydd, 1842, yn 54 mlwydd oed. 141. Frost1 (Wittiam), y telynior o Perthyr, oedd enedigol o Randir y Mwn, ger llaw Llanymddyf''1- Daeth drosodd i Ferthyr gyda'i dad, a phan yn lled ieuanc aeth i weithio i'r gwaith mwn, a chyfarfydd- odd yno â damwain, drwy yr hon y collodd ei olwg- 0 herwydd ei fod yn hoff o gercldoriaeth, gwnaeth- pwyd casgliad drwy yr ardal er prynu telyn iddo, & thalu am ei dclysgu i'w chwareu i William Willianis, telynior, Abertawy. Efe oedd clad y Dr. Frost, J cerddor a'r telynior enwog sydd yn awr yn byw yng Nghaerdydd. Bu farw, wedi cyrhaedd oedran teg> yn 1860.—Mss. 142. Fychan (Wittiam), ceidwad Castell Aberyst- wyth, a maer y dref yn amser Edward IV., oedd fab i Wathin Fychan, Ysw., o Bredwardine. Ym- ddengys iddo amddiffyn Castell Aberystwyth yn J modd dewraf rhag ymosodiad y Saeson. Traethir am dano fel telynior melus ac edmygydd harddoniaeth- Wele un englyn o awdl Lewis Grlyn Cothi iddo :—■ " William, gân dclyn, efo cerdd a fyn, Am hyn ei ddilyn a feddyliais ; Af yng ngŵydd cannyn iddo a wyddyn' Cael brigyn gwin gwyn am a genais." Lewis Glyn Cothi, 73. 143. Gadwaladr (Dafydd), gwel Cadwaladr------• 144. Gadwaladr (Ftten), neu Ellen Hughes, ac hefyd Neli Dywyll, telynores o Fraichtalog, Llan- degai, sir Caernarfon, oedd ferch i Huw Cadwaladr, o blwyf Llandegai, yr hwn hefyd oedd o deul^1 Dafydd Gadwaladr o Nant Conwy. Granwyd hi Chwefror 8fed, 1767. Er y gelwid hi Neli Dywylh nid oedd yn gwbl felly. Phyw ddamwain a gafodd pan yn blentyn i'w golygon ; ac o herwydd hyny rhoddwyd hi i ddysgu chwareu telyn. Daeth i fedru chwareu yn dda, a chyfrifid hi yn delynores o gry11 enwogrwydd. Byddai, yn ol arferiad yr oes, yn dilyn gwylmabsantau, noswyliau llawen, &c. Hefyd; ar uchelwyliau yr Eglwys, megys Nadolig, Pasc, &c-, arferai chwareu y delyn yn yr Eglwysi fel cyfeilyd^ i'r cantorion carolau yn y Plygain a'r Grosper Can- wyllau. Priododd â milwr, yr hwn a ryddhawyd- o'r fyddin yn yr Aipht o herwydd colli o hono e1 olwg, o'r enw Huw Prichard, mab i amathwr yn a,g°9 i Gaernarfon, ac aeth y ddau gyda'u gilydd ar hyd a lled y wlad i ganu a chwareu y delyn, a dyna oedd ganddynt at eu cynnaliaeth. Llwyddasant i gaeJ- 1 Ni:l oedd un berthynas rhwng William Frost hwn a Jonû Frost y Chartist, fel y traethir yn Y Cerddor Cymreig, cyf. x*