Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AUSTRALYDD: £nkfrgraíün gj&NrJL EHIF. 6.] EHAGFYE, 1867. [CYF. II. FY HYNT YN BASS'S STRAITS. Wedi mordaith gysurus o ychydig ddyddiau, tua haner awr wedi unarddeg boreu Sabboth, 25ain o Awst diweddaf, tiriasom ar un o ynysoedd noethlwm ac annghyfaneddol Bass's Straits. Dichon mai nid annerbyniol gan luaws o ddarllenwyr yr " Australydd " fyddai cael ychydig o hanes y daith hon—yr hyn a welsom, a glywsom, ac a deimlasom. Hwyrach, gydag ychydig o ymdrech, y gallaswn ysgrifenu penodau lled feithion ar yr hyn a welsom ac a deimlas- om; ond byr mewn cydmhariaeth fyddai yr un ar yr hyn a glywsom, oblegid cyn y gellir clywed y mae yn rhaid fod, rhywun yn llefaru— siarad. Ond dyn a helpo eich gohebydd, bu efe alîan o fyd y siarad am tua dau fis—bu mewn gwlad can liired a Sir Fon, Ònd ni rifai ei thrigolion ond pump enaid, ac ni pherthynai yr un o hon- ynt i'r rhyw hòno ag y dywed y gwr doeth fod ei " nerth yn ei thafod." Nid oedd chwaith gymundeb rhyngom a'r un ran arall o drigfanau plant dynion: er ein bod ar y ddaear, yr oeddym serch hyny allan o'r byd—mor llwyr felly, am gorff dau fis, ag y bu Robinson Crusoe erioed. Gwlad ryfedd oedd hon : yr oedd mewn rhai pethau yn siampl i'r byd—nid oedd ynddi dafarn na dafll o ddiod feddwol—nid oedd ynddi filwr, heddgeidwad, barnwr, na charchardy—nid oedd ynddi ddinasoedd gorwych, y rhai a addurnid gan glafdai a thylottai, &c.—ni flinid ei thrigolion gan swn y pregethwr, ac ni ofynid dimai goch at un achos da na drwg ar wyneb y ddaear. Nid oedd ynddi gapel na llan; a chan belled ag y gellais adnabod y trigolion^ ofer fuasai i neb fyned a'r llyfr casglu o gwmpas. Hynod mor wahanol oedd i rai o ardaloedd Victoria! Dyma vodél o wlad, onide ? Nid hyn yw y cwbl ellii' 4dywedyd am dani. Yr oedd fel Sparta gynt heb arian ynddi, ac ni theimlai neb yr un angenrheidrwydd am danynt chwaith. Yr oedd holl foethusrwydd ei phobl yn gynwysedig mewn ymborth a gwely. Tra yr oedd enw y prodtice dealer a'r green grocer yn anwyl genym, ychydig a feddyliem am y draper na'r teiliwr. Tarawsoni ar gynllun i daflu y nodwydd a'r edaf o'r neilldu—cortynem ein dillad am danom; a phaii mewn eisiau par o gsgidiau, rhwymai rhai o honom ychydig hen ledr o gylch ein traed, a meddyliem ar