Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WbÀj/fy, YR AUSTBALYDD: EHIF. 2.] CHWEFEOE, 1869. [CYE. III. "ODID ELW HEB ANTUR." Y mae yr hen ddiareb hon, fel y cyffreclin o'r hen ddiarebion Cymreig, yn cynwys byd o feddwl. Y gwirionedd mawr cynwysedig ynddi ydyw egwyddor ysgogol a llywodraethol y byd masnachol. Nis gellir meddwl am unrhyw sefyllfa y dichon dyn fod ynddi yn ei gysylltiad â'r byd oddiallan, nad yw yn gweithredu mewn rhyw fodd oddiar yr egwyddor hon. Er na chynwysa y ddîareb sicrwydd deddf achos ac effaith, sef, os anturi byddi yn rhwym o elwa, ceir ynddi y posibl a'r tebygol; oher- wydd y mae o fewn cylch gwybodaeth pob dyn luaws o engreifftiau o rai wedi elwa trwy anturiaethau o'r un natur, a than amgylchiadau cyffelyb i'r eiddo yntau. Y mae fod un wedi llwyddo drwy antur- iaeth, yn rhoddi sail i tm arall gredu fod yn bosibl iddo yntau Iwyddo gydag anturiaeth gyffelyb. Gan fod A wedr llwyddo a dyfod y'mlaen yn y byd trwy anturio mewn un gangen o fasnach, y mae yn bosibl y llwydda B i'r un graddau trwy anturio mewn cangen arall. Gan fod C wedi elwa cymaint trwy anturio ar gyfranau yn y Band of Hope, y mae yn bosibl y llwydda D yn gyff elyb trwy anturio ar gyfranau yn yr Hand & Band. Er nad yw pob anturiaeth yn cynyrchu elw, y mae pob elw yn gynyrch anturiaeth. Anturiaeth yw y porth aur, a'r unig borth sydd yn arwain i ddinas anrhydeddus elw. Ceir yr un gwirionedd yn y ddiareb Saesonig, "Never ventnre, never win." Pa beth yw dirgclwch llwyddiant y rhai sydd yn esgyn o'r sefyll- faoedd isaf i gylchoedd uwchaf cymdeithas ? Gallwn nodi degau o fewn cylch ein hadnabyddiaeth, yn y wlad hon ac yn Nghymru, a ddygwyd i fynu yn dlodíon, ond sydd erbyn hyn yn rhestr anrhyd- eddus y cyfoethogion; a channoedd hefyd sydd a'u henwau wedi eu croniclo ar lechres hanesyddiaeth, ac a drosglwyddir o oes i oes hyd ddiwcdd amser—wedi dringo o ddyffryn adfyd a thlodi, i gppa bryn hawddfyd ac anrhydedd; rhai o dlotty yr TJndeb, i balas y boneddwr; ereill oddiwrth y nodwydd, y mynawyd, y llif, y líwyarn, &c, i eistedd yn senedd Prydain Pawr, ac at lyw llywodraeth eang TJnol Dalaethau America. Dirgelwch llwyddiant y rhai hyn oedd, eu bod wedi gwneud y gwirionedd cynwysedig yn ein testun yn brif erthygl eu credo. Dichon nad oes gwlad dan haul a'i thrigolion yn credu mor gyffred- inol a diffuant yn ngwirionedd ein testun a'r wlad hon, a dyna sydd