Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^arlttn ©enaìîatol OYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN, RHIF. XXX. MEDI, 1839. TRIGFEYDD Y BAKUENIAID, AFFRICA DDEHEUOL. Y dysgrifiad canlynol o ddyfais hynod a ddefnyddir gan un o'r Uwythau brodorawl yn Africa Ddeheuol, i'w diogelu eu hunain rhag ymosodiadau yr aml fwystfilod rheibus a flinant y wlad, a ddanfonwyd gany Parch. Robert Moffat, o Latakoo ; yr hwn a welodd y peth yn un o'i deithiau tua'r gogledd o'r orsaf hòno. Ysgrifena Mr. Moffat fel hyn :—- " Pùm niwrnod wedi gadael y Baharutse, mi a ddaethum i orsaf allanol gyntaf anifeil- iaid y Matabele ; yn agos i bren prydferth o faintioli rhyfeddol, a gyfanneddid gan amryw deuluoedd o'r Bakueniaid, cynfrodorion y wlad. Gwedi sefyll, mi a aethym yn union at y pren, esgynais yn fuan i'r trigfêydd awyrawl; ac er fy syndod, cyfrifais nid llai na 17 o dai, a rhanau o dri eraill heb eu gorphen. Gwedi cyrhaedd y bwth uehaf, tua 30 troedfedd o'r ddaear, aethym i mewn ac eisteddais i lawr. Ei unig ddodrefn oedd y gwair a orchuddiai y llawr, gwaywífon, llwy, a chawg yn llawn o locustiaid. Gan nas profaswn fwyd er y bore, gofynais i wraig a eisteddai wrth y drws â phlentyn yn ei breichiau, am ganiatâd i fwyta. Caníatâodd yn siriol, a dygodd i mi beth yn chwaneg o'r un ymborth mewn ystâd faledig. Hyn debygid oedd yr unig fath o fwyd yn eu meddiant. Daeth amryw bobl eraill o'r bythod ar y cangenau cymmydogawl, i weled y dieithryn ; yr hwn iddynt hwy oedd yn rhyfeddod mòr fawr ag oedd y pren iddo yntau. Gwedi hyny ymwelais â'r gwahanol drigfêydd, pob un o ba rai oedd wedi ei sefydlu ar gangen wahanol. Ffurfir esgynlawr hir-grwn o brenau union, tua 7 troedfedd o hyd, yn groes-ymgroes ar draws y cangenau : ar y llawr hwn ffurfir tŷ brigfain, o brenau bychain uniou hefyd ; a thöir ef yn ddestlus â phorfa hir. Gal'l dyn sefyll bron yn union-syth yn ei ganol ef, ac mae traws-fesur y llawr, neu y gwaelod, tua 6 troedfedd. Safa y tŷ ar y naill ben i'r esgynlawr hir-grwn, fel ag i adael ychydig le i sefyll o flaen y drws. Dyma drigfeydd gwaelion, onduchel, y cynfrodorion tlodion, y rhai ydynt